Mynediad ar gyfer arolygon
Wrth gynllunio a datblygu ein prosiectau, mae angen i ni gynnal arolygon i helpu i lywio dyluniad y cynllun a’r Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol (EIA). I wneud hyn, mae angen i ni arolygu ardal eang er mwyn sicrhau ein bod yn deall yr amgylchedd lleol, effeithiau posibl y prosiect, ac unrhyw fesurau lliniaru sydd eu hangen.
Bydd canlyniadau’r arolygon yn helpu i lywio penderfyniadau ynghylch llwybro Prosiect Cysylltiad Tywi Wysg arfaethedig.
Ein hasiant tir
Mae Green GEN Cymru wedi penodi Dalcour Maclaren i gefnogi ymgysylltu â pherchnogion tir a deiliaid ar hyd y llwybr arfaethedig.
Gan weithio ochr yn ochr â thîm y Prosiect, bydd Dalcour Maclaren yn parhau i gynorthwyo gyda:
- Trefniadau mynediad ar gyfer arolygon.
- Ymgysylltu parhaus â pherchnogion tir.
- Trafodaethau ynghylch datblygu’r llwybr.
- Ystyriaethau adeiladu a mynediad.
- Meithrin perthnasoedd gwaith cadarnhaol ac adeiladol.
Nid yw darparu mynediad ar gyfer arolygon yn effeithio ar eich gallu i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad na rhannu eich barn am y Prosiect ar unrhyw adeg.
Rydym yn deall pwysigrwydd eich tir, eich busnes a’ch gweithrediadau o ddydd i ddydd. Ein nod yw gweithio’n agos gyda pherchnogion tir a deiliaid drwy gydol datblygiad y Prosiect, gan gynnal cyfathrebu agored a chytuno ar drefniadau mynediad mewn ffordd sy’n ymarferol, yn barchus ac sy’n lleihau aflonyddwch cymaint â phosibl.
Bydd ein hasiant tir yn parhau i weithio’n uniongyrchol gyda pherchnogion tir a deiliaid i gytuno ar drefniadau addas ar gyfer mynediad i gynnal arolygon ac ymgysylltu parhaus. Dod i gytundeb gyda’n gilydd fydd ein dull gweithredu a ffefrir bob amser, ac rydym wedi ymrwymo i gynnal perthnasoedd cadarnhaol drwy ddeialog agored a chyd-ddealltwriaeth. Mae meithrin perthnasoedd cadarnhaol yn parhau’n ganolog i’n dull gweithredu, a byddwn yn parhau i weithio’n agos gyda pherchnogion tir a deiliaid drwy gydol datblygiad y Prosiect.
Cadw mewn cysylltiad
Os ydych yn berchennog tir ac yr hoffech ragor o wybodaeth, mae croeso i chi gysylltu â ni:
Rhadffôn: 0333 052 4114
Ebost: towyusk@dalcourmaclaren.com