Rydyn ni’n datblygu llinell uwchben 132kV newydd i gysylltu Parc Ynni Bryn Gilwern â rhwydwaith dosbarthu arfaethedig Tywi Wysg. Wedi’i chynnal ar bolion pren ac yn tua 5 cilometr o hyd, bydd y prosiect hwn yn cryfhau cadernid rhwydwaith dosbarthu trydan Cymru.
Bydd cysylltiad Bryn Gilwern yn cyfrannu at wydnwch ac uchelgeisiau ynni Cymru, yn galluogi busnesau a chymunedau lleol i dyfu a datgarboneiddio, ac yn helpu i gyflymu’r broses o gyflwyno technolegau carbon isel, gan gynnwys gwresogi a cherbydau trydan.
Rydyn ni wedi ymrwymo i weithio gyda phobl leol fel bod y prosiect yn darparu manteision y gallwch chi eu gweld – swyddi, buddsoddiad, a diogelwch ynni yn y tymor hir.
Diolch i bawb a roddodd o’u hamser i ddangos diddordeb a rhoi adborth yn ystod yr ymgynghoriad anstatudol a gafodd ei gynnal rhwng dydd Mercher 11 Medi a dydd Mercher 23 Hydref 2024. Yn ystod yr ymgynghoriad yn yr hydref, fe wnaethom ofyn am eich adborth ar y llwybr sy’n cael ei ffafrio a’r aliniad drafft, gan gynnwys lleoliadau dangosol y polion pren, yn ogystal ag unrhyw ffactorau eraill roeddech chi’n teimlo y dylem eu hystyried.
Mae’r holl adborth yn cael ei ddadansoddi a’i ystyried yn ofalus ochr yn ochr ag asesiadau technegol ac arolygon amgylcheddol parhaus. Bydd y dyluniad diwygiedig yn cael ei gyflwyno yn ein hymgynghoriad statudol, sydd wedi’i drefnu ar gyfer 2026 ar hyn o bryd.
