Prosiectau > Bryn Gilwern Ymgysylltu â thirfeddianwyr

YMGYSYLLTU Â THIRFEDDIANWYR

Mae Green GEN Cymru wedi ymrwymo i feithrin perthynas waith gadarn gyda thirfeddianwyr a meddianwyr wrth i ni ddatblygu ein cynigion ar gyfer prosiect cysylltiad Bryn Gilwern.

Byddwn ni’n gweithio gyda chi wrth i ni ddatblygu ein cynlluniau, ac rydyn ni’n eich annog chi a/neu eich cynrychiolwyr i gysylltu â ni os oes gennych chi unrhyw gwestiynau.

Mynediad ar gyfer arolygon

Wrth gynllunio a datblygu ein prosiectau, mae angen i ni gynnal arolygon er mwyn helpu i lywio dyluniad y cynllun, yn ogystal ag Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol.

Mae angen i ni arolygu ardal eang er mwyn sicrhau ein bod yn deall yr amgylchedd lleol, sut gallai ein gwaith effeithio arno, ac ystyried unrhyw fesurau lliniaru sydd eu hangen. Bydd yr arolygon yn helpu i lywio penderfyniadau ar lwybro a lleoli prosiect cysylltiad Bryn Gilwern. Bydd canfyddiadau’r arolygon hyn hefyd yn cael eu cynnwys fel rhan o’n Hasesiad o’r Effaith Amgylcheddol a byddant yn ein helpu i ddatblygu aliniad manwl ar gyfer y llinell uwchben, gan gynnwys lleoliadau ar gyfer y polion pren, llwybrau mynediad ac ardaloedd gwaith.

Byddwn ni’n gweithio’n agos gyda thirfeddianwyr a meddianwyr er mwyn cytuno ar fynediad er mwyn gallu cynnal arolygon, lle bynnag y bo modd, ar adegau priodol gan achosi cyn lleied â phosib o anghyfleustra. Mae angen cynnal rhai arolygon, fel arolygon adar neu ystlumod, ar adegau penodol o’r flwyddyn i ddarparu gwybodaeth am nythu neu gynefinoedd.

Nid yw caniatáu i Green GEN Cymru gael mynediad i dir ar gyfer arolygon yn cael unrhyw effaith ar dirfeddianwyr a meddianwyr sy’n cymryd rhan mewn ymgynghoriadau neu’n gwneud sylwadau ar brosiect cysylltiad Bryn Gilwern o gwbl.

Bydd ein hasiantau tir yn parhau i geisio cael cytundebau gwirfoddol gyda thirfeddianwyr a meddianwyr ar gyfer mynediad, a byddwn bob amser yn ceisio cyrraedd y rhain lle bynnag y bo modd. Os na ellir sicrhau cytundeb, efallai y bydd angen i ni ystyried a defnyddio’r pwerau cyfreithiol perthnasol.

Cadw mewn cysylltiad

Os ydych chi’n dirfeddiannwr ac yn dymuno cael rhagor o wybodaeth, mae croeso i chi gysylltu â ni yma.