Prosiectau > Bryn Gilwern Ymgynghoriad

Cafod ein hymgynghoriad anstatudol ar y llwybr sy’n cael ei ffafrio a’r aliniad llwybr drafft ar gyfer Bryn Gilwern ei gynnal rhwng dydd Mercher 11 Medi a dydd Mercher 23 Hydref 2024.

  • Yn ystod yr ymgynghoriad chwe wythnos, fe wnaethom gyflwyno’r aliniad drafft a’r llwybr sy’n cael ei ffafrio gennym, ynghyd â lleoliadau dangosol polion pren ar gyfer llinell uwchben cylched sengl o tua 5 cilometr.
  • Fe wnaethom ofyn am eich adborth ar y llwybr sy’n cael ei ffafrio a’r aliniad drafft, gan gynnwys lleoliadau dangosol y polion pren, yn ogystal ag unrhyw ffactorau eraill roeddech chi’n teimlo y dylem eu hystyried.
  • Fel rhan o’n hymgynghoriad anstatudol, fe wnaethom gynnal tri digwyddiad yn Neuadd Bentref Hundred House, Neuadd Eglwys Aberedw, a Neuadd Bentref Hawy. Roedd y digwyddiadau hyn yn gyfle i gymunedau a rhanddeiliaid lleol gwrdd â thîm y prosiect, trafod y cynigion sy’n datblygu, a chael rhagor o wybodaeth am yr hyn y gallai’r prosiect ei olygu iddyn nhw.
  • Daeth cyfanswm o 120 o bobl i’n digwyddiadau ymgynghori, a chawsom 25 darn o adborth yn ymwneud â chynigion Bryn Gilwern. Diolch i bawb wnaeth gymryd rhan a rhoi adborth.
  • Rydyn ni’n ddiolchgar am yr adborth manwl a ddarparwyd gan ymgyngoreion statudol ac aelodau o’r cyhoedd. Ynghyd â’n hasesiadau parhaus, mae’r adborth hwn yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o lunio’r prosiect a sicrhau bod safbwyntiau’r gymuned yn cael eu hadlewyrchu’n ystyrlon yng ngham nesaf ein gwaith wrth i ni ddatblygu’r dyluniad manwl.

Y camau nesaf 

Mae’r holl adborth yn cael ei ddadansoddi a’i ystyried yn ofalus ochr yn ochr ag asesiadau technegol ac arolygon amgylcheddol parhaus. Gan ddefnyddio’r adborth a gafwyd, rydyn ni’n datblygu dyluniad ac aliniad manylach ar gyfer y cysylltiad polion pren newydd, gan gynnwys dewis lleoliadau terfynol ar gyfer y polion ac unrhyw seilwaith dros dro a fydd yn ofynnol, fel ffyrdd mynediad ac ardaloedd i storio offer adeiladu.

Byddwn yn cyhoeddi adroddiad yn crynhoi’r adborth o’r ymgynghoriad anstatudol yn hydref 2024 a sut mae wedi dylanwadu ar ein cynigion. Bydd y dyluniad manwl yn cael ei gyflwyno yn ein hymgynghoriad statudol, sydd wedi’i drefnu ar gyfer 2026 ar hyn o bryd.