Mae Green Generation Energy Networks Cymru Limited (‘Green GEN Cymru’) yn gyfrifol am eich data personol. Mae GREEN GENERATION ENERGY NETWORKS CYMRU LIMITED (Green GEN Cymru), cwmni cyfyngedig preifat sydd wedi’i gofrestru yng Nghymru a Lloegr gyda rhif cwmni 13060815 ac sydd â’i swyddfa gofrestredig yn Hodge House, Guildhall Place, Caerdydd, y Deyrnas Unedig, CF10 1DY.
At ddibenion cyfraith diogelu data berthnasol (yn benodol, Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (UE) 2016/679 (y “GDPR”)), bydd eich data yn cael ei reoli gan Green GEN Cymru.
Mae Green GEN Cymru yn parchu eich preifatrwydd ac mae wedi ymrwymo i ddiogelu eich data personol. Bydd y polisi preifatrwydd hwn yn rhoi gwybod i chi sut rydym yn gofalu am eich data personol ac yn dweud wrthych am eich hawliau preifatrwydd a sut mae’r gyfraith yn eich diogelu.
Mae ein manylion cyswllt wedi’u nodi ar ddiwedd y polisi preifatrwydd hwn.
Beth mae’r polisi preifatrwydd hwn yn ei gwmpasu?
Mae’r Polisi Preifatrwydd hwn yn egluro sut rydym yn defnyddio data personol drwy ein gwefan a chyda’r unigolion yr ydym yn rhyngweithio â hwy, gan gynnwys y rhai yr ydym yn gohebu â hwy, cyflenwyr, ymgeiswyr a landlordiaid. Mae’n cwmpasu prosesu gan Green GEN Cymru Limited.
Pa ddata personol rydym yn ei gasglu a pham rydym yn ei ddefnyddio?
Mae’r tabl isod yn egluro am bwy rydym yn casglu data personol, beth yw’r data personol hwnnw a’r diben. Mae’r golofn olaf yn nodi’r ‘sail gyfreithlon’ yr ydym yn dibynnu arni ar gyfer prosesu’r data personol hwnnw, sy’n ofyniad o dan gyfraith diogelu data. Dim ond os gall cwmnïau nodi sail gyfreithlon o restr a nodir mewn deddfwriaeth y cânt brosesu data personol.
UNIGOLION SY’N CYSYLLTU Â NI
Data personol
Manylion cyswllt a ddarparwyd a gohebiaeth.
Ffynhonnell a diben
Rhoddir yr wybodaeth hon i ni gennych chi. Fe’i defnyddir i ymateb i’ch ymholiad a chadw cofnod ohono.
Sail gyfreithlon dros brosesu
Ein buddiannau dilys fel busnes wrth ymateb i ohebiaeth a chadw cofnod ohoni.
CLEIENTIAID A DARPAR GLEIENTIAID
Data personol
Manylion cyswllt a ddarparwyd, gohebiaeth a chontractau.
Ffynhonnell a diben
Rhoddir yr wybodaeth hon i ni gennych chi neu o wybodaeth sydd ar gael yn gyhoeddus (er enghraifft ar eich gwefan). Fe’i defnyddir i ni gyflawni contractau a chynnal trafodaethau busnes, megis datblygu safleoedd newydd.
Sail gyfreithlon dros brosesu
Ein buddiannau dilys fel busnes wrth ymateb i ohebiaeth a chadw cofnod ohoni. Mae rhywfaint o wybodaeth hefyd yn angenrheidiol er mwyn i ni gyflawni ein contract – er enghraifft rhai manylion cyswllt – ac oherwydd bod gennym rwymedigaeth gyfreithiol i brosesu’r data hwnnw.
CYFLENWYR A CHONTRACTWYR
Data personol
Manylion cyswllt a ddarparwyd, gohebiaeth a chontractau.
Ffynhonnell a diben
Rhoddir yr wybodaeth hon i ni gennych chi neu o wybodaeth sydd ar gael yn gyhoeddus (er enghraifft ar eich gwefan). Fe’i defnyddir i ni gyflawni contractau a chynnal trafodaethau busnes, megis mewn perthynas â chyflenwi gwasanaethau.
Sail gyfreithlon dros brosesu
Ein buddiannau dilys fel busnes wrth ymateb i ohebiaeth a chadw cofnod ohoni. Mae rhywfaint o wybodaeth hefyd yn angenrheidiol er mwyn i ni gyflawni ein contract – er enghraifft rhai manylion cyswllt.
TIRFEDDIANWYR
Data personol
Manylion cyswllt a ddarparwyd, gohebiaeth, contractau a manylion eiddo a chofrestru tir.
Ffynhonnell a diben
Rhoddir yr wybodaeth hon i ni gennych chi neu o wybodaeth sydd ar gael yn gyhoeddus (er enghraifft ar gofrestri tir). Fe’i defnyddir i ni gyflawni contractau a chynnal trafodaethau busnes, megis mewn perthynas â thenantiaethau a datblygiadau.
Sail gyfreithlon dros brosesu
Ein buddiannau dilys fel busnes wrth ymateb i ohebiaeth, cadw cofnod ohoni ac asesu cyfleoedd. Angenrheidrwydd er mwyn i ni gyflawni ein contract – er enghraifft rhai manylion cyswllt – ac i gydymffurfio â gofynion cyfreithiol.
YMGEISWYR
Data personol
CV, manylion cyswllt, gwybodaeth geirda a gohebiaeth.
Ffynhonnell a diben
Rhoddir yr wybodaeth hon i ni gennych chi neu gan ganolwyr trydydd parti. Fe’i defnyddir i asesu addasrwydd ymgeiswyr sy’n gwneud cais am swydd gyda ni.
Sail gyfreithlon dros brosesu
Ein buddiannau dilys wrth asesu addasrwydd ymgeiswyr sy’n gwneud cais am swydd gyda ni. Dim ond os ydych wedi dewis ei rhoi i ni / wedi cydsynio i ni ei phrosesu y caiff unrhyw wybodaeth iechyd neu wybodaeth sensitif arall ei chasglu.
Am ba hyd rydym yn cadw eich data personol?
Dim ond cyhyd ag sy’n angenrheidiol ar gyfer y diben perthnasol y byddwn yn cadw eich gwybodaeth. Er enghraifft, os oes gennym gontract gyda chi, bydd hyn am 6.5 mlynedd ar ôl iddo ddod i ben er mwyn ein cynorthwyo gydag unrhyw hawliadau contractiol. Rydym yn defnyddio nifer o feini prawf i bennu’r cyfnod cadw, gan gynnwys rhwymedigaethau o dan y gyfraith, ein hangen i amddiffyn neu gyflwyno hawliadau contractiol o fewn y cyfnod cyfyngu statudol ac ystyried y diben gwreiddiol y casglwyd yr wybodaeth ar ei gyfer.
Gyda phwy rydym yn rhannu eich data personol?
Gellir rhannu data yn yr amgylchiadau canlynol:
A ydym yn gwneud penderfyniadau awtomataidd amdanoch?
Penderfyniadau awtomataidd yw’r rhai a wneir heb ymyrraeth ddynol ac sydd ag effaith gyfreithiol arnoch neu effaith sylweddol debyg arall (er enghraifft penderfynu a ydych yn gymwys am swydd). Nid ydym yn cynnal y math hwn o weithgaredd prosesu.
A ydym yn trosglwyddo eich data y tu allan i’r DU a/neu’r AEE?
Efallai gallwn drosglwyddo eich data personol i wledydd y tu allan i’r DU a/neu Ardal Economaidd Ewrop (neu rhwng y ddwy), er enghraifft os ydym yn defnyddio cyflenwr sydd wedi’i leoli mewn man arall. Gall y cyfreithiau preifatrwydd mewn gwledydd y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r DU fod yn wahanol i’r rhai yn eich gwlad gartref.
Pan fyddwn yn trosglwyddo data i wlad nad ystyriwyd ei bod yn darparu safonau digonol o ddiogelu data, bydd gennym bob amser fesurau diogelwch a chymalau model cymeradwy neu fesurau diogelu digonol eraill ar waith i ddiogelu eich data personol. Cysylltwch â ni os hoffech gael rhagor o fanylion am ein mesurau diogelu ar gyfer trosglwyddiadau data.
Pa hawliau sydd gennych mewn perthynas â’r data personol sydd gennym amdanoch?
Yn ôl y gyfraith, mae gennych nifer o hawliau o ran eich data personol. Gellir cael rhagor o wybodaeth a chyngor am eich hawliau gan y rheoleiddiwr diogelu data yn eich gwlad. Yn y DU, Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) yw hon.
Gallwch arfer yr hawliau hyn drwy gysylltu â ni yn DPO@GreenGENCymru.com neu drwy ddefnyddio’r manylion cyswllt a nodir ar ein tudalen Cysylltu â Ni. Nid oes angen i chi ddefnyddio unrhyw ffurflen benodol na geiriad cyfreithiol, ond dylech gynnwys eich enw, eich manylion cyswllt a digon o wybodaeth i ni ddeall eich cais a nodi’r cofnodion neu’r rhyngweithio perthnasol.
Fel arfer, rydym yn ymateb i geisiadau hawliau o fewn mis i’w derbyn. Os yw eich cais yn gymhleth, neu os ydych wedi gwneud nifer o geisiadau, gallwn ymestyn y cyfnod hwn hyd at ddau fis pellach. Os bydd angen i ni ymestyn y cyfnod ymateb, byddwn yn rhoi gwybod i chi.
Fel arfer, rydym yn delio â cheisiadau hawliau yn rhad ac am ddim. Fodd bynnag, pan fo cais yn amlwg yn ddi-sail neu’n ormodol, neu pan fyddwch yn gofyn am gopïau pellach o wybodaeth yr ydym eisoes wedi’i darparu, gallwn godi ffi resymol i dalu am ein costau gweinyddol neu, mewn rhai amgylchiadau, wrthod gweithredu ar y cais.
Sut gallwch wneud cwyn am sut rydym yn trin eich data personol?
Os oes gennych bryderon am sut mae Green GEN Cymru wedi casglu, defnyddio, storio, rhannu neu fel arall drin eich data personol, mae gennych yr hawl i wneud cwyn yn uniongyrchol i ni.
Gallwch anfon eich cwyn drwy e-bost at DPO@GreenGENCymru.com. Er ein bod yn ffafrio cyfathrebu drwy e-bost, gallwch gyflwyno cwyn drwy unrhyw ddull cyfathrebu – gweler ein tudalen Cysylltu â Ni am fanylion. Cynhwyswch eich enw, eich manylion cyswllt a digon o wybodaeth i ni ddeall eich pryder a nodi’r cofnodion neu’r rhyngweithio perthnasol. Nid oes angen i chi ddefnyddio unrhyw ffurflen benodol na geiriad cyfreithiol.
Byddwn yn cydnabod derbyn eich cwyn o fewn 30 diwrnod i’w derbyn. Byddwn yn cymryd camau priodol i ymchwilio ac ymateb i’ch cwyn heb oedi diangen, yn eich diweddaru lle bo’n briodol ac yn rhoi gwybod i chi am y canlyniad.
Os ydych yn parhau’n anfodlon, mae gennych hefyd yr hawl i gwyno i’r ICO.
1. Yr hawl i gael gwybod
Beth mae hyn yn ei olygu?
Mae gennych yr hawl i gael gwybodaeth glir, dryloyw a hawdd ei deall am sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth a’ch hawliau. Dyma pam rydym yn darparu’r wybodaeth yn y Polisi Preifatrwydd hwn. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ychwanegol, er enghraifft ynghylch trosglwyddiadau a lleoliadau data neu ein sail buddiannau dilys, cysylltwch â ni.
2. Yr hawl I gael mynediad
Beth mae hyn yn ei olygu?
Mae gennych yr hawl i gael mynediad at eich gwybodaeth (os ydym yn ei phrosesu), a gwybodaeth benodol arall (tebyg i’r hyn a ddarperir yn y Polisi Preifatrwydd hwn). Mae hyn er mwyn i chi fod yn ymwybodol a gallu gwirio ein bod yn defnyddio eich gwybodaeth yn unol â chyfraith diogelu data.
3. Yr hawl i gywiro
Beth mae hyn yn ei olygu?
Mae gennych yr hawl i gael eich gwybodaeth wedi’i chywiro os yw’n anghywir neu’n anghyflawn.
4. Yr hawl i ddileu
Beth mae hyn yn ei olygu?
Gelwir hyn hefyd yn ‘hawl i gael eich anghofio’ ac, mewn termau syml, mae’n eich galluogi i ofyn am ddileu neu dynnu eich gwybodaeth pan nad oes rheswm cymhellol i ni barhau i’w defnyddio. Nid yw hon yn hawl gyffredinol; mae eithriadau.
5. Yr hawl i gyfyngu ar brosesu
Beth mae hyn yn ei olygu?
Mae gennych hawliau i ‘rwystro’ neu atal defnydd pellach o’ch gwybodaeth. Pan fo prosesu wedi’i gyfyngu, gallwn barhau i storio eich gwybodaeth, ond ni allwn ei defnyddio ymhellach. Rydym yn cadw rhestrau o bobl sydd wedi gofyn i ddefnydd pellach o’u gwybodaeth gael ei ‘rwystro’ er mwyn sicrhau bod y cyfyngiad yn cael ei barchu yn y dyfodol.
6. Yr hawl i gludadwyedd data
Beth mae hyn yn ei olygu?
Mae gennych hawliau i gael ac ailddefnyddio eich data personol at eich dibenion eich hun ar draws gwahanol wasanaethau. Nid yw hon yn sefyllfa arferol i gwmnïau o’n natur ni, ond os oes gennych unrhyw gwestiynau, gallwch gysylltu â ni.
7. Yr hawl i wrthwynebu prosesu
Beth mae hyn yn ei olygu?
Mae gennych yr hawl i wrthwynebu rhai mathau o brosesu, gan gynnwys prosesu ar gyfer marchnata uniongyrchol neu pan rydym yn dibynnu ar ein buddiannau dilys ar gyfer prosesu.
8. Yr hawl i gyflwyno cwyn
Beth mae hyn yn ei olygu?
Mae gennych yr hawl i gyflwyno cwyn am y ffordd rydym yn trin neu’n prosesu eich data personol i’ch rheoleiddiwr diogelu data cenedlaethol.
9. Yr hawl i dynnu caniatâd yn ôl
Beth mae hyn yn ei olygu?
Os ydych wedi rhoi eich cydsyniad i unrhyw beth rydym yn ei wneud gyda’ch data personol, mae gennych yr hawl i dynnu eich cydsyniad yn ôl ar unrhyw adeg (er, os gwnewch hynny, nid yw’n golygu bod unrhyw beth yr ydym wedi’i wneud gyda’ch data personol gyda’ch cydsyniad hyd at y pwynt hwnnw yn anghyfreithlon). Mae hyn yn cynnwys eich hawl i dynnu cydsyniad yn ôl i ni ddefnyddio eich data personol at ddibenion marchnata.
Sut gallwch gysylltu â ni?
Os ydych yn anfodlon â sut rydym wedi trin eich gwybodaeth neu os oes gennych gwestiynau pellach am brosesu eich data personol, cysylltwch â’r DPO yn DPO@GreenGENCymru.com neu drwy’r post:
DPO
Hodge House
Guildhall Place
Caerdydd CF10 1DY
Y Deyrnas Unedig
Eich hawl i wneud cwyn
Mae gennych yr hawl i wneud cwyn am sut mae Green GEN Cymru yn prosesu data personol i:
A ydym yn gwneud newidiadau i’n Polisi Preifatrwydd?
Gallwn newid y Polisi Preifatrwydd hwn ar unrhyw adeg. Os byddwn yn gwneud unrhyw newidiadau, byddwn yn eu cyhoeddi ar y dudalen hon. Os ydynt yn newidiadau sylweddol, bydd gennym hefyd hysbysiad mwy amlwg i roi gwybod i chi.
Diweddarwyd ddiwethaf: Diweddarwyd y polisi preifatrwydd hwn ddiwethaf ar 18 Mehefin 2026.