Deall y termau perthnasol
Gweithredwr Rhwydwaith Dosbarthu (DNO) yw’r cwmni rhanbarthol sy’n gyfrifol am redeg y rhwydwaith trydan yn eich ardal.
Mae Gweithredwr Rhwydwaith Dosbarthu Annibynnol (IDNO) yn gwmni preifat sy’n berchen ar rwydweithiau trydan ac yn eu gweithredu.
Mae Darparydd Cysylltiad Annibynnol (ICP) yn gwmni sydd wedi ei achredu o dan yn y Cynllun Cofrestriad Trydan Cenedlaethol (NERS), i ddylunio ac adeiladu rhwydweithiau trydan newydd – o geblau i is-orsafoedd a chysylltiadau. Mae’n rhaid i’w gwaith gyrraedd safonau tynn y diwydiant fel bod modd i’r rhwydwaith, unwaith y bydd yn gyflawn, gael ei fabwysiadu a’i gynnal gan naill ai’r DNO neu’r IDNO.