Landscape view of a windfarm Decorative illustration depicting green hills Decorative illustration depicting green hills

Datgloi Potensial Ynni Gwyrdd Cymru

Beth rydyn ni’n wneud

 

Rydyn ni’n cynllunio llwybrau ynni gwyrdd ledled Cymru.

 

Rydyn ni’n gweithredu nawr i adeiladu a gweithredu rhwydwaith ynni gwyrdd i Gymru, a fydd yn gwneud yn siŵr y gall 100% o ynni adnewyddadwy lifo i’n cartrefi, ysbytai, ysgolion, busnesau a chymunedau.

Rydyn ni’n chwarae rhan ganolog wrth ddarparu rhwydwaith dosbarthu dibynadwy a chadarn a fydd yn mynd i’r afael â’r argyfwng ynni, yr argyfwng hinsawdd yn ogystal â’r argyfwng costau byw. Bydd yn grymuso cymunedau gwledig drwy fuddsoddiadau, swyddi a sgiliau, gan alluogi cymunedau i fyw bywydau trydan modern.

Towy UskVyrnwy Frankton RhiwlasTowy TeifiBryn GilwernAberedw

 

Nid yw seilwaith grid Cymru yn addas at y diben. Mae’n dal datblygiadau ynni adnewyddadwy yn ôl. Mae angen buddsoddiad, atgyfnerthu ac uwchraddio.

 

Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith y Senedd

Cysylltu

Mae ein rhwydwaith trydan yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd, ac rydym yn gwahodd mynegiannau o ddiddordeb gan gwsmeriaid posibl, gan gynhyrchwyr ynni a defnyddwyr ynni.  Os hoffech gysylltu â’n rhwydwaith, neu os oes gennych ddiddordeb mewn trafodaeth ddichonoldeb gychwynnol, ewch i’n tudalen “Get Connected” i gofrestru eich diddordeb.

darganfod mwy

Fatm land with energy pylons in fields
Siaradwch â ni

Cysylltwch os hoffech drafod ein cynlluniau. Byddwn yn cynnal digwyddiadau ymgynghori cyhoeddus er mwyn i chi gael dweud eich dweud ac i rannu eich barn am y cynlluniau. Rydyn ni’n gwrando ac yn ymateb i bob sylw wrth i ni ddatblygu cynlluniau manwl mewn cydweithrediad â chymunedau lleol.

f: 0800 233 5338
e:info@greengencymru.com

Cysylltwch â ni