Home > Diwygio’r Cysylltiadau
Ein Rhwydwaith Trydan

Diwygio’r Cysylltiadau

Y Diwygiad Cysylltiadau yw’r newid mwyaf mewn degawdau yn y ffordd y mae prosiectau’n cysylltu â’r rhwydwaith trydan ym Mhrydain Fawr. Mae’r nod yn syml ond yn uchelgeisiol: cyflymu cysylltiadau ynni glân, gostwng oedi hir, a gwneud yn siŵr bod y prosiectau cywir yn cysylltu ar yr amser cywir.

Roedd yr hen fodel “y cyntaf i’r felin” yn creu ciwiau hir o brosiectau, a doedd llawer o’r rheiny ddim yn barod i’w symud ymlaen. O dan y system newydd, mae’n rhaid i brosiectau ddangos eu bod yn barod i’w hadeiladu a hefyd eu bod yn cyfateb â’r hyn y mae’r system ei angen cyn iddyn nhw allu sicrhau lle cadarn yn y ciw. Mae hyn yn rhan o’r cynllun Pŵer Glân 2030, sy’n sicrhau y gall y DU gyflawni targedau ynni sero net yn brydlon.

Nodweddion Allweddol prosiectau sy’n Barod ar gyfer y Diwygio ac yn Alinio’n Strategol
Mae’n rhaid i brosiectau ddangos tystiolaeth eu bod yn cyflawni Meini Prawf Porth 2. Mae hyn yn golygu profi bod ganddynt yr hawliau tir, statws cynllunio, parodrwydd o ran cyllido a hefyd bod y prosiect yn cyfrannu at anghenion y system – p’un a yw hynny’n ddefnyddiau adnewyddadwy, storio neu allu arall sy’n cael blaenoriaeth.

Rheoli’r Ciw
Yn lle eistedd mewn ciw am amser amhenodol, bydd y prosiectau’n symud ymlaen dim ond os ydyn nhw’n cyflawni’r meini prawf newydd. Mae hyn yn atal cynlluniau hapfasnachol neu rai sydd wedi oedi rhag “rhwystro”r ciw.

Diogelu Prosiectau Datblygedig
Gall datblygwyr sydd wedi datblygu’n gadarn yn barod ac y mae cytundebau’n bodoli ganddynt,  gael eu diogelu ar yr amod eu bod yn gallu dangos tystiolaeth o’u parodrwydd.

Datganiad am Barodrwydd

Mae’r Datganiad am Barodrwydd yn fyw ac yn ofynnol erbyn hyn. Mae’n ddatganiad wedi’i lofnodi, gyda thystiolaeth yn gefn iddo, i ddweud bod eich prosiect yn wirioneddol barod i symud ymlaen. Hebddo, mae eich cynllun mewn perygl o gael ei symud i lawr y ciw neu ei oedi. Mae’r Llawlyfr Tystiolaeth (a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2025) yn nodi’n union beth sydd ei angen – o hawliau tir i gynnydd y trefniadau cynllunio. Dylai datblygwyr fod yn ei baratoi a’i gyflwyno yn awr.

Gwelwch dempled ac arweiniad NESO i’r Datganiad Parodrwydd

Ymgysylltu â’r Diwygio Cysylltiadau

Yn GreenGen Cymru, rydym yn annog pob datblygwr a phartner i wneud hyn:

Gweithredu nawr – casglwch eich tystiolaeth, cyflwynwch eich Datganiad am Barodrwydd, ac ymgysylltwch ag arweiniad NESO.

Gwybod y diweddaraf – mae NESO, Ofgem, a DNOs yn cynnal gweminarau, ymgynghoriadau a gweithdai parhaus.

Meddwl yn strategol – nid yw’n ddigon i fod yn barod; mae’n rhaid i’ch prosiect gyfateb hefyd ag anghenion y system genedlaethol a’r cynllun Pŵer Glan 2030.

Paratoi ar gyfer cynigion wedi’u diwygio – o hydref 2025, bydd prosiectau’n dechrau derbyn telerau newydd. Mae’r Diwygiad Cysylltiadau’n cynrychioli newid mawr yn y diwydiant. Mae’n gofyn am fwy o baratoad o flaen llaw, ond yn daliad am hynny, mae’n addo mynediad cyflymach a mwy dibynadwy i’r grid i brosiectau sy’n wirioneddol barod i ddarparu.