Prosiectau > Tywi Wysg Ymgynghoriad

Yr hyn rydym yn ymgynghori arni yn yr ymgynghoriad hwn

Rydym yn croesawu eich barn ar yr Aliniad Llwybr Drafft – Hydref 2026.

Mae eich adborth yn parhau i chwarae rhan bwysig wrth lywio’r Prosiect. Rydym yn eich gwahodd i edrych ar y newidiadau arfaethedig a rhannu eich barn fanwl gyda ni.

Gan adeiladu ar yr hyn rydym wedi’i glywed. Mireinio’r Prosiect gyda’n gilydd.

Mae ein hymgynghoriad ar agor rhwng 6 Hydref a 24 Tachwedd 2026.

Mae’r Aliniad Llwybr Drafft – Hydref 2026 a’r cynigion ategol a gyflwynir yn yr ymgynghoriad hwn yn cynrychioli’r cynigion mwyaf datblygedig gennym hyd yma, ond mae’r Prosiect yn parhau i fod yn agored i ddylanwad.

Gweld y map rhyngweithiol o’r newidiadau arfaethedig diweddaraf i’r llwybr >

 

Cyflwynwch eich adborth yma >

 

Rydym am glywed am faterion lleol, cyfleoedd, cyfyngiadau a mesurau lliniaru na fyddent o bosibl wedi cael eu nodi eto. Gall eich adborth ein helpu i fireinio’r llwybr ymhellach, trefniadau mynediad ar gyfer adeiladu, a mesurau lliniaru amgylcheddol cyn yr ymgynghoriad statudol.

Rydym yn ceisio adborth ar yr Aliniad Llwybr Drafft – Hydref 2026, gan gynnwys:

  • Tua 92 km o linell uwchben newydd, gan gynnwys lleoliadau arfaethedig polion pren a monopolau, sef math newydd o strwythur a gynigir ar hyd llawer o’r llwybr.
  • Safle arfaethedig yr orsaf newid yn Adran 4, i’r gogledd-ddwyrain o Lanwrda.
  • 6 km o gebl tanddaearol yn Adran 5, gan gynnwys croesfannau o dan yr A40, Afon Tywi, y B4300 a’r B4310.
  • Ardaloedd mynediad dros dro ac ardaloedd gwaith arfaethedig sy’n angenrheidiol yn ystod y gwaith adeiladu.
  • Unrhyw faterion, cyfleoedd neu ystyriaethau y dylid eu hystyried wrth i’r Prosiect barhau i gael ei ddatblygu.
  • Eich profiad o’r broses ymgynghori a’r wybodaeth rydym wedi’i darparu.

 

Ymgynghoriadau cymunedol – Hydref 2026

Mae eich barn yn parhau i chwarae rhan bwysig wrth lunio’r Prosiect

Ymunwch â ni yn un o’n digwyddiadau ymgynghori cymunedol i gael rhagor o wybodaeth am y cynigion, cwrdd â thîm y Prosiect, gofyn cwestiynau a rhannu eich adborth. Byddwch yn gallu gweld deunyddiau arddangos, mapiau llwybr manwl a model 3D o’r llwybr a’r seilwaith arfaethedig, gan roi cyfle i chi archwilio’r cynigion yn fanylach a gweld sut y gallai’r strwythurau monopôl arfaethedig ymddangos o fewn y dirwedd leol.

Dewch i gwrdd â’r tîm mewn digwyddiad yn eich ardal chi.

Lleoliad Dyddiad ac amser
Pafiliwn Maldwyn, Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanfair-ym-Muallt, LD2 3SY Dydd Mercher
14 Hydref
2:00yp i 7:00yh
Clwb Rygbi Llanymddyfri, Church Bank, Llanymddyfri, SA20 0BA Dydd Iau
15 Hydref
2:00yp i 7:00yh
Canolfan Gymunedol Pen-y-bont a’r Cylch, ger Llandrindod, LD1 5UA Dydd Gwener
16 Hydref
2:00yp i 7:00yh
Neuadd Gymunedol Llanarthne, Llanarthne, Caerfyrddin, SA32 8JD Dydd Mercher
21 Hydref
12:30yp i 5:30yp
Neuadd Ddinesig Llandeilo Fawr, 17 Crescent Road, Llandeilo, SA19 6HW Dydd Iau
22 Hydref
9:30yb i 2:30yp
Neuadd Gymunedol Llandyfaelog, Sir Gaerfyrddin, SA17 5PA Dydd Sadwrn
24 Hydref
11:00yb i 4:00yp

Pam mae eich adborth yn bwysig:

  • Mae’r adborth a dderbyniwyd drwy ymgyngoriadau blaenorol wedi helpu i lywio’r cynigion a gyflwynir heddiw.
  • Mae’r Aliniad Llwybr Drafft – Hydref 2026 yn cynrychioli’r cynigion mwyaf datblygedig gennym hyd yma, ond maent yn parhau i fod yn agored i ddylanwad.
  • Bydd yr adborth a dderbynnir yn ystod yr ymgynghoriad hwn yn helpu i lywio cam nesaf y gwaith dylunio cyn yr ymgynghoriad statudol yn 2027.
  • Byddwn yn ystyried eich sylwadau ochr yn ochr ag asesiadau amgylcheddol parhaus, astudiaethau technegol a gwaith dylunio peirianneg wrth i’r Prosiect barhau i esblygu.

Dywedwch wrthym beth yw eich barn – gall gwybodaeth leol ac adborth manwl wneud gwahaniaeth gwirioneddol

Mae eich barn a’ch gwybodaeth leol yn bwysig wrth ein helpu i ddatblygu a mireinio’r cynigion ymhellach. Hoffem glywed am unrhyw newidiadau y credwch y gallent wella’r Prosiect, lleihau effeithiau posibl neu greu cyfleoedd ychwanegol, ac, yn bwysig, y rhesymau dros hynny.

Mae’r ffurflen adborth yn ganllaw yn unig. Gallwch ateb cymaint neu gyn lleied o’r cwestiynau ag y dymunwch, gan ganolbwyntio ar yr agweddau ar y Prosiect sydd fwyaf perthnasol i chi. Os yw’n well gennych, gallwch gyflwyno eich sylwadau ar wahân drwy e-bost neu lythyr.

Po fwyaf o fanylion y gallwch eu darparu, y mwyaf gwerthfawr fydd eich adborth. Gall gwybodaeth am leoliadau, eiddo, busnesau, nodweddion amgylcheddol, trefniadau mynediad, gweithrediadau amaethyddol ac asedau cymunedol ein helpu i ddeall amgylchiadau lleol yn well ac i nodi cyfleoedd i fireinio’r cynigion.

Gall gwybodaeth ategol, megis yr enghreifftiau a restrir isod, fod yn arbennig o ddefnyddiol wrth nodi lleoliadau penodol a sicrhau ein bod yn deall ac yn ystyried eich adborth yn gywir:

  • Ffotograffau
  • Mapiau, cynlluniau a lluniadau wedi’u hanodi
  • Dogfennau perthnasol eraill
  • Cyfeirnodau what3words.

Wrth gyflwyno sylwadau, defnyddiwch y Map Rhyngweithiol neu’r mapiau a’r wybodaeth ategol sydd wedi’u cynnwys yn Llyfryn Ymgynghori i nodi lleoliadau penodol ac, lle bo’n berthnasol, rifau cyfeirio polion pren, monopolau neu seilwaith arall. Bydd hyn yn ein helpu i ddeall ac ystyried eich adborth yn gywir.

Sicrhewch fod eich adborth yn ymwneud â’r Prosiect a’i effeithiau posibl. Nid ydym yn gallu ystyried safbwyntiau ar faterion ehangach megis polisi ynni cenedlaethol, technolegau cynhyrchu ynni neu strategaethau ynni’r llywodraeth sy’n datblygu.

Sut i gyflwyno eich adborth

Rydym yn croesawu adborth ar bob agwedd o’r cynigion. Gallwch gyflwyno eich adborth mewn unrhyw un o’r ffyrdd canlynol:

  • Llenwch y ffurflen adborth ar-lein
  • Llenwch ffurflen adborth bapur, sydd ar gael yn y digwyddiadau ymgynghori, a’i dychwelyd at: FREEPOST GREEN GEN TOWY USK
  • Anfonwch eich adborth drwy e-bost i info@greengentowyusk.com

Y dyddiad cau: Cyflwynwch eich adborth erbyn 23:59 ar 24 Tachwedd 2026.

 

Gwybodaeth i gefnogi’r ymgynghoriad

Mae’r holl ddeunyddiau ymgynghori ar gael i’w gweld a’u lawrlwytho o adran Dogfennau y wefan prosiect hon. Mae’r dogfennau hyn yn darparu rhagor o wybodaeth am ddatblygiad y Prosiect, yr asesiadau a gynhaliwyd, yr adborth a dderbyniwyd, a’r newidiadau sydd wedi helpu i lywio’r cynigion presennol.

Mae’r dogfennau canlynol ar gael:

  • Llyfryn Ymgynghori Anstatudol Cam Tri.
  • Ffurflen Adborth Cam Tri.
  • Dogfen Llwybro ac Ymgynghori – Ymgynghoriad Anstatudol Cam Tri, sy’n darparu gwybodaeth fanwl am y broses ddatblygu’r llwybr, yr asesiadau a gynhaliwyd a datblygiad y dyluniad.
  • Map Trosolwg o’r Llwybr, sy’n dangos yr Aliniad Llwybr Drafft – Hydref 2026 yn ei gyfanrwydd.
  • Mapiau Adrannau’r Llwybr, sy’n darparu gwybodaeth fanylach am bob un o’r pum adran lwybr a’r cynigion seilwaith cysylltiedig.
  • Adroddiad Ymgynghoriad Cam Dau ar yr Aliniad Llwybr Drafft – Gwanwyn 2024, gan gynnwys yr adborth a dderbyniwyd yn ystod yr ymgynghoriad a’n hymateb iddo.

Gallwch hefyd archwilio’r Map Rhyngweithiol i weld yr Aliniad Llwybr Drafft – Hydref 2026 a’r seilwaith cysylltiedig yn fwy manwl.

Rydym yn edrych ymlaen at glywed eich barn.