Ceblau Pŵer Tanddaearol: Y Realiti Peirianneg Sifil y tu ôl i’r Penawdau

Pan fydd y sgwrs gyhoeddus yn troi at isadeiledd pŵer, yn arbennig y ddadl gynyddol o amgylch gosod ceblau o dan y ddaear o’i gymharu â pheilonau, mae’n gwneud synnwyr bod llawer o’r ffocws yn mynd ar yr estheteg, y gost, a safbwynt y cyhoedd. Ond o safbwynt peirianneg sifil, mae’r stori’n llawer mwy cymhleth ac mae wedi ei seilio ar yr elfennau realistig ymarferol ar lawr gwlad.

Yn Jones Bros, nid ni sy’n gwneud y penderfyniadau pan fydd raid i brosiect ddewis rhwng tyrrau dros ben neu geblau o dan y ddaear. Mae’r rheiny’n benderfyniadau cynllunio a pholisi yn y pen draw a wneir gan ddatblygwyr a rheoleiddwyr. Fodd bynnag, fel contractwr sydd â phrofiad ar draws amrediad eang o brosiectau isadeiledd, rydym yn chwarae rôl allweddol mewn cynghori ar ymarferoldeb, cyfyngiadau safleoedd, a helpu i lunio atebion sy’n addas i’r tir a hefyd i’r tirlun rheoleiddiol.

Yr hyn rydym wedi ei ddarganfod yn gyson yw bod gosod ceblau trydan foltedd uchel o dan y tir yn cyflwyno heriau peirianneg llawer mwy nag y mae llawer o bobl yn ei dybio, yn enwedig o’i gymharu â gosod peilonau.

I ddechrau, mae pob safle yn dod â’i gyfres unigryw ei hun o gyfyngiadau. Ar draws y DU ac yn sicr yma yng Nghymru, rydym wedi gweithio mewn ardaloedd sydd â phob math o gyfyngiadau – o amodau tir anodd a graddiannau serth, i safleoedd archeolegol wedi’u diogelu, gwasanaethau byw a chroesfannau dros briffyrdd, rheilffyrdd a chyrff dŵr. Ychwanegwch at hynny yr ystyriaethau defnydd tir, megis a yw’n dir âr neu’n dir pori a’r goblygiadau o ran draenio ac ansawdd y pridd, ac rydych yn dechrau gweld yn gyflym iawn mor gymhleth y gall hyd yn oed y camau cynllunio cynnar fod.

Un mater sy’n cael ei anwybyddu yn aml iawn yw maint enfawr y tir sy’n ofynnol. Mae ceblau tanddaearol yn gofyn am goridor gwasanaeth parhaus a llydan. Mae hynny’n golygu adeiladu ffordd gludo, a hynny fel arfer ar hyd y safle cyfan, er mwyn caniatáu i offer mawr a deunyddiau gael eu cludo a’u gosod. Mae hon yn ymdrech adeiladu dros dro sylweddol ynddi ei hun, ac nid yw’n un sy’n cyd-dynnu’n hawdd â defnydd presennol y tir neu ofynion diogelu’r amgylchedd.

Unwaith y bydd y ffordd gludo yn ei lle, mae’r gwaith cloddio’n cychwyn. Y dull arferol yw cloddio ffos, sydd fel arfer tua 1.5 metr o ddyfnder, cyn gosod deunyddiau gwaelodol, pibellau ar gyfer y ceblau, tywod thermol, ac yna ôl-lenwi’r ffos. Rhaid ailadrodd y broses hon ar draws y safle cyfan. Mewn ardaloedd sensitif neu adeiledig, er enghraifft o dan briffyrdd neu gerllaw asedau Network Rail, mae’n rhaid i ni ddefnyddio drilio cyfeiriadol, sy’n dechneg hynod o arbenigol a llawer mwy drud.

Yn ogystal â’r gwaith sifil uniongyrchol, mae’n rhaid i ni hefyd ystyried systemau draenio dros dro, diogelu cyfleustodau sydd yno’n barod, rheoli gwaddodion, a pharchu gofynion llym i ddiogelu’r amgylchedd. Mae pob un o’r mesurau hyn wedi eu seilio ar arolygon ac asesiadau risg a wneir cyn i unrhyw raw daro’r ddaear.

Yna, mae’n rhaid ystyried y gwaith cynnal a chadw yn y tymor hir. Unwaith y bydd y ceblau wedi eu claddu o dan y ddaear, bydd unrhyw ddiffyg yn llwybr y ceblau yn y dyfodol yn golygu agor y tir hwnnw unwaith eto, a hynny’n sylweddol yn aml iawn. Mae’n rhaid ystyried heriau mynd i mewn at y broblem a’r amser y byddai’n ei gymryd i ddarganfod a thrwsio problemau wrth edrych ar wytnwch cyffredinol y system.

Er gwaethaf y problemau hyn, ni ddylem ddiystyru gosod ceblau o dan y tir fel opsiwn anaddas bob tro. Mae’n gwneud synnwyr mewn rhai lleoliadau, yn enwedig mewn ardaloedd trefol neu dirweddau sensitif o ran eu golygfeydd. Ond yr hyn y byddwn yn rhybuddio yn ei erbyn yw’r syniad mai dyma’r opsiwn gorau neu symlaf bob tro.

Fel contractwyr, ein rôl ni yw darparu pa ateb bynnag a ddewisir. Ond rydym hefyd yn credu y dylid gwneud penderfyniadau gydag ymwybyddiaeth lawn o’r cymhlethdodau peirianneg, costau a goblygiadau tymor hir perthnasol. Yn Jones Bros, rydym yn dod â’r mewnwelediad ymarferol hwnnw at y bwrdd, nid er mwyn ffafrio un opsiwn dros un arall, ond i sicrhau bod yr un cywir yn cael ei ddewis ar gyfer pob prosiect unigryw.

Yn y pen draw, daw’r canlyniadau gorau pan fydd yr elfennau technegol realistig yn cael yr un pwysigrwydd â sentiment cyhoeddus a gwleidyddol. Oherwydd, bydd darparu system ynni gynaliadwy, wydn a diogel ar gyfer y dyfodol yn gofyn mwy na dim ond bwriadau da. Bydd yn gofyn am yr isadeiledd cywir, wedi ei adeiladu yn y ffordd gywir.