Mae’r cenedlaethau nesaf yn awyddus i wthio Cymru yn ei blaen

Hoffai Green GEN Cymru ddiolch i Darogan am ein gwahodd i’w digwyddiad diweddar i raddedigion yn y Depot yng Nghaerdydd

Roedd yn llwyddiant ysgubol a chadarnhaol, ac roedd ein tîm Green GEN wrth eu bodddau’n siarad â channoedd o raddedigion oedd yn awyddus i gyfrannu at y sector. Roeddem yn awyddus i dynnu sylw at y cyfoeth o gyfleoedd yn yr economi gwyrdd sy’n datblygu yng Nghymru.

Green GEN Cymru yw gweithredwr rhwydwaith dosbarthu annibynol mwyaf Cymru, ac mae’n buddsoddi £1 biliwn mewn isadeiledd grid, gan olygu ein bod yn chwaraewr allweddol yn nhrosglwyddiad ynni’r genedl. Yn y digwyddiad hwn, siaradodd aelodau ein tîm am eu teithiau gyrfaol amrywiol nhw eu hunain a chynnig cipolwg o’r byd go iawn ar weithio yn un o sectorau mwyaf dynamig y DU ac un o’r rhai sy’n tyfu gyflymaf. Roedd eu brwdfrydedd yn glir wrth iddynt sgwrsio â mynychwyr o bob cefndir – p’un a oedd ganddyn nhw ddiddordeb mewn peirianneg, polisi, ymgysylltiad neu gynllunio.

Rhoddodd Rachel Foster, y Rheolwr Prosiect Cyswllt, grynodeb o ysbryd y diwrnod:

“Roedd hi’n wych siarad â chymaint o bobl oedd â diddordeb mewn adeiladu gyrfa gyda phwrpas. Waeth beth yw eu sgiliau, mae toreth o gyfleoedd – ac mae Cymru wrth galon hyn i gyd. Roedd fy ngradd innau mewn ieithoedd ond dyma fi yn awr yn helpu i adeiladu’r isadeiledd i bweru’r dyfodol. Nid oes un llwybr gradd penodol sy’n ofynnol; y cwbl yr ydym ni a’r sector cyfan ei angen yw pobl ymroddedig sydd ag angerdd ymhob cornel o Gymru i’n helpu i’w ddarparu.”

Roedd y digwyddiad nid yn unig yn cynnig cyngor gwerthfawr am rwydweithio a gyrfaoedd, roedd hefyd yn dangos ymrwymiad Green GEN Cymru i gefnogi’r genhedlaeth nesaf o dalent. Roedd ein cyfranogaeth o gymorth i ysbrydoli’r bobl hynny a fynychodd i ystyried sut y gallai eu sgiliau gyfrannu at system egni lanach a thecach i Gymru.