Green GEN Cymru yn Cyhoeddi Penodiad Prif Swyddog Gweithredol Newydd fel Rhan o Newid Arweinyddiaeth Strategol
Bydd Stuart yn arwain y cwmni sydd â thrwydded IDNO ochr yn ochr â’r Rheolwr-gyfarwyddwr Daryn Lucas, wrth i’r cwmni gychwyn cyfnod hanfodol bwysig o ehangu a datblygiad strategol.
Mae’r penodiad hwn yn gam arwyddocaol ymlaen i Green GEN Cymru, gan adeiladu ar y momentwm y mae wedi’i ennill ers ei ymgynghoriad statudol cyntaf ar brosiect Vyrnwy Frankton yn gynharach eleni.
Gan sôn am ei benodiad, dywedodd Stuart George: “Mae’n anrhydedd arwain Green GEN Cymru. Ers iddo sicrhau ei drwydded IDNO y llynedd, mae’r busnes mewn sefyllfa dda erbyn hyn i gyflawni ei genhadaeth o ddatblygu rhwydwaith dosbarthu cadarn a dibynadwy.
“Heb ddiweddariadau amserol i’r grid, ni fydd Cymru’n cyflawni ei thargedau ynni adnewyddadwy nac yn datgloi’r swyddi gwledig, cyfleoedd busnes a buddion datgarboneiddio a ddaw yn eu sgil.
“Gyda’i seilwaith sylweddol o biblinellau grid ar draws y tair prif linell, bydd portffolio Green GEN Cymru’n helpu Cymru i gyflawni ei tharged ar gyfer 2035 ac yn chwarae rôl hanfodol bwysig yn y DU o ran cyflawni targedau Ynni Glân 2030 a thu hwnt.
“Edrychaf ymlaen at arwain tîm profiadol a hynod alluog wrth i ni lywio drwy dirlun ynni cymhleth sy’n esblygu’n gyflym.”
Mae Stuart yn ymuno â Green GEN Cymru fel Prif Swyddog Gweithredol ac aelod o’r Bwrdd ar ôl saith mlynedd yn rôl Rheolwr-gyfarwyddwr Bute Energy.