Rydym yn cynnig cysylltiad trydan 132kV newydd rhwng Parc Ynni Lan Fawr, i’r dwyrain o Landdewi Brefi, Ceredigion, ag is-orsaf Grid Cenedlaethol newydd yn Llandyfaelog, Sir Gaerfyrddin.
Hoffem ddiolch i bawb a gymerodd ran yn ymgynghoriad anstatudol cam dau yng ngwanwyn 2025. Mae eich cyfraniadau’n helpu i gryfhau prosiect sy’n gweithio i’r rhai sy’n byw, yn gweithio ac yn mwynhau gweithgareddau hamdden ger ein cynigion.
O ganlyniad i’r cyfraniadau hyn, yn ogystal ag asesiadau ac adborth pellach gan randdeiliaid technegol, rydym yn cynnig rhai diweddariadau i brosiect Tywi Teifi.
Ymhlith y newidiadau arfaethedig mae estyniadau i’n dwy ran o waith tanddaearu ger Bryn Myrddin a Llandyfaelog; llwybr newydd yn Adran Un ymhellach i ffwrdd oddi wrth Lanfair Clydogau, Cellan a Llanbedr Pont Steffan; a rhan newydd o bolion pren i gysylltu Parc Ynni Lan Fawr. Ceir isod ragor o wybodaeth am y newidiadau hyn, gan gynnwys mapiau diweddaredig.
Gwyddom ba mor bwysig yw eich hysbysu o ddatblygiadau’r prosiect, felly roeddem yn awyddus rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf hon â chi cyn gynted â phosibl.
Byddwn yn ymgynghori ar y newidiadau yn ddiweddarach yn y flwyddyn, ac yn ystod y cyfnod hwnnw byddwn yn cynnal ymgynghoriad arall gyda gwybodaeth fanwl am yr holl ddiweddariadau i’r llwybr a digwyddiadau cyhoeddus, lle bydd cyfle i chi gwrdd â thîm y prosiect a dweud eich dweud.
Yn y cyfamser, rydym yn ymgysylltu â thirfeddianwyr ynghylch y diweddariadau rydym yn eu cynnig ac yn parhau i gwblhau arolygon amgylcheddol ar draws prosiect Tywi Teifi.