Cynhaliwyd ein hymgynghoriad diweddaraf rhwng 5 Mawrth 2025 ac 16 Ebrill 2025. Yma, cyflwynwyd ein drafft cyntaf o aliniad llwybr ar gyfer y prosiect a chroesawyd adborth.
Aeth cyfanswm o 566 o bobl i’n hymgynghoriad Cyfnod Dau yn 2025 a chawsom 359 o ddarnau o adborth.
I gael rhagor o wybodaeth am ein hymgynghoriad Cyfnod Dau, gweler ein hadroddiad cryno.
Hoffem ddiolch i bawb a gymerodd rhan yn ein hymgynghoriadau ar gyfer prosiect Tywi Teifi. Mae eich cyfraniadau’n helpu i ddatblygu prosiect sy’n gweithio i’r rhai sy’n byw, yn gweithio ac yn mwynhau gweithgareddau hamdden ger ein cynigion.
O ganlyniad i’r cyfraniadau hyn, yn ogystal ag asesiadau ac adborth pellach gan randdeiliaid technegol, rydym yn cynnig rhai diweddariadau i brosiect Tywi Teifi.
Byddwn yn ymgynghori ar y newidiadau yn ddiweddarach yn y flwyddyn, ac yn ystod y cyfnod hwnnw byddwn yn cynnal ymgynghoriad arall gyda gwybodaeth fanwl am yr holl ddiweddariadau i’r llwybr a digwyddiadau cyhoeddus, lle bydd cyfle i chi gwrdd â thîm y prosiect a dweud eich dweud.