GYRFAOEDD MEWN CYNALIADWYEDD PRIFYSGOL CAERDYDD: CYFLE I GWRDD Â CHYFLOGWYR
Roedd y digwyddiad yn gyfle gwych i drafod yr amrywiaeth fawr o rolau sy’n chwarae rhan mewn datblygu seilwaith rhwydweithiau trydan — a pham mae cryfhau capasiti’r grid yn hanfodol i system ynni Cymru yn y dyfodol. Mynychodd Chloe ar ran Green GEN Cymru, gan ddychwelyd i’r campws i weithio fel cynrychiolydd cyflogwr ar ôl cwblhau ei hastudiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd. Astudiodd Chloe Gynllunio Dinesig a Rhanbarthol (BSc) ac aeth ymlaen i gwblhau MSc mewn Cynaliadwyedd, Cynllunio a Pholisi Amgylcheddol — felly roedd hyn yn cau’r cylch yn daclus. Buom yn siarad â myfyrwyr am lwybrau gyrfaol ar draws y meysydd cynllunio, amgylchedd, peirianneg, tir a chyfranogiad cymunedol, a’r hyn sydd ei angen i gyflawni prosiectau seilwaith mawr mewn ffordd gyfrifol a gyda chymunedau lleol. Diolch o galon i Brifysgol Caerdydd am gynnal digwyddiad diddorol oedd wedi ei drefnu mor dda. Edrychwn ymlaen at gadw cysylltiad â myfyrwyr sydd eisiau helpu i lunio dyfodol ynni yng Nghymru.