Prosiectau > Towy Teifi Ein cynigion

Ein cynigion

Rydym yn cynnig cysylltiad trydan 132 kV i gludo ffynonellau ynni newydd o Barc Ynni Lan Fawr, i’r dwyrain o Landdewi Brefi, Ceredigion, ag is-orsaf Grid Cenedlaethol newydd yn Llandyfaelog, Sir Gaerfyrddin.

Mewn ymateb i’ch adborth i’n hymgynghoriad diwethaf, yn ogystal ag asesiadau ac adborth pellach gan randdeiliaid technegol,, rydym yn cynnig diweddaru prosiect Tywi Teifi i leihau cyfanswm y peilonau, ychwanegu mwy o waith tanddaearu, cyflwyno adran polion pren, a’i symud i ffwrdd oddi wrth nifer o drefi a phentrefi. 

Gwnaethoch anfon adborth gwerthfawr ac adeiladol atom a gofyn i ni ystyried sut y gallai’r prosiect effeithio ar gymunedau cyfagos, yr amgylchedd a’r dirwedd o’i gwmpas. Rydym yn ddiolchgar am yr ymgysylltiad, ac mae’r diweddariadau hyn yn adlewyrchu ein hymrwymiad i gydweithio â phreswylwyr a rhanddeiliaid i leihau’r effeithiau posibl mewn meysydd a nodwyd gennych fel rhai pwysig.  

Rydym yn cynnig cysylltiad trydan 132kV newydd rhwng Parc Ynni Lan Fawr, i’r dwyrain o Landdewi Brefi, Ceredigion, ag is-orsaf Grid Cenedlaethol newydd yn Llandyfaelog, Sir Gaerfyrddin. 

Hoffem ddiolch i bawb a gymerodd ran yn ymgynghoriad anstatudol cam dau yng ngwanwyn 2025. Mae eich cyfraniadau’n helpu i gryfhau prosiect sy’n gweithio i’r rhai sy’n byw, yn gweithio ac yn mwynhau gweithgareddau hamdden ger ein cynigion.  

O ganlyniad i’r cyfraniadau hyn, yn ogystal ag asesiadau ac adborth pellach gan randdeiliaid technegol, rydym yn cynnig rhai diweddariadau i brosiect Tywi Teifi. 

Ymhlith y newidiadau arfaethedig mae estyniadau i’n dwy ran o waith tanddaearu ger Bryn Myrddin a Llandyfaelog; llwybr newydd yn Adran Un ymhellach i ffwrdd oddi wrth Lanfair Clydogau, Cellan a Llanbedr Pont Steffan; a rhan newydd o bolion pren i gysylltu Parc Ynni Lan Fawr. Ceir isod ragor o wybodaeth am y newidiadau hyn, gan gynnwys mapiau diweddaredig.  

Gwyddom ba mor bwysig yw eich hysbysu o ddatblygiadau’r prosiect, felly roeddem yn awyddus rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf hon â chi cyn gynted â phosibl.  

Byddwn yn ymgynghori ar y newidiadau yn ddiweddarach yn y flwyddyn, ac yn ystod y cyfnod hwnnw byddwn yn cynnal ymgynghoriad arall gyda gwybodaeth fanwl am yr holl ddiweddariadau i’r llwybr a digwyddiadau cyhoeddus, lle bydd cyfle i chi gwrdd â thîm y prosiect a dweud eich dweud.   

Yn y cyfamser, rydym yn ymgysylltu â thirfeddianwyr ynghylch y diweddariadau rydym yn eu cynnig ac yn parhau i gwblhau arolygon amgylcheddol ar draws prosiect Tywi Teifi.  

Ein diweddariadau arfaethedig i lwybr Tywi Teifi

Diweddariad Lan Fawr 

Nawr bod y generadur wedi cyhoeddi manylion ei ddyluniad ar gyfer Parc Ynni Lan Fawr fel rhan o’i ymgynghoriad anstatudol, rydym wedi datblygu cysylltiad polion pren a fydd yn dod â’r ynni i mewn i gysylltiad Tywi Teifi.  

Newidiadau arfaethedig i’r llwybr

Mewn ymateb i adborth gan y cyhoedd, rydym yn cynnig llwybr newydd yn Adran Un, ymhellach i ffwrdd oddi wrth Lanfair Clydogau, Cwm-ann, Cellan a Llanbedr Pont Steffan.  

Yn Adran Dau, i’r gogledd-ddwyrain o Abergiâr, rydym yn cynnig adlinio ymhellach i ffwrdd oddi wrth eiddo preswyl, lle bo modd, gan osgoi cynefinoedd a choetiroedd blaenoriaeth.  

Yn Adran Tri rydym yn cynnig symud y llwybr ymhellach i’r gorllewin i gynyddu’r pellter rhwng y llwybr a phentref New Inn. Mae hyn hefyd yn lleihau faint o seilwaith arfaethedig mewn cynefinoedd blaenoriaeth ac yn osgoi croesi coetir hynafol lle bo modd.  

Mae Adran Pump yn cynnwys estyniadau i’r rhannau arfaethedig o danddaearu ym Mryn Myrddin a Llandyfaelog mewn ymateb i adborth y cyhoedd ac asesiadau mewnol pellach.   

Rydym yn deall efallai fod gennych gwestiynau am y wybodaeth rydym yn ei rhannu. Gallwch ffonio llinell gymorth y prosiect ar 08009152496 neu e-bostio ni yn info@greengentowyteifi.com gydag unrhyw gwestiynau sydd gennych.