ACCC CAERDYDD: PENNOD NEWYDD YN ARLOESIAD Y GRID

Mae ACCC Caerdydd (Craidd Cyfansawdd Dargludydd Alwminiwm) yn fath newydd o ddargludydd llinell uwchben, sydd wedi’i lunio’n benodol i gefnogi rhwydweithiau dosbarthu trydan modern. Fel cwmni seilwaith annibynnol sydd wedi’i seilio yng Nghaerdydd ac sydd wedi’i drwyddedu gan Ofgem, roeddem yn falch o gael arwain y gwaith o brofi a gweithredu’r dechnoleg hon, gan ennill yr hawl i’w henwi. Adeiladwyd ar gyfer Amodau Cymru. Dyluniwyd ar gyfer y Dyfodol. Cafodd dargludydd ACCC Caerdydd ei ddyfeisio i wrthsefyll amodau tywydd heriol Cymru gan ddarparu capasiti uwch a pherfformiad dibynadwy yn yr hirdymor. Bydd yn cael ei ddefnyddio ar beilonau L7c — strwythurau sy’n sefyll tua 27 metr o uchder a 5 metr o led. Mae’r rhain tua hanner maint tŵr trawsyriant 400kV nodweddiadol, ac mae hynny’n helpu i leihau’r effaith weledol yn sylweddol. Trwy gyfuno technoleg dargludydd ddatblygedig gyda seilwaith peilonau llai, gall ACCC Caerdydd ddyblu capasiti peilonau llai. Mae hyn yn ein galluogi i foderneiddio a chryfhau seilwaith grid hanfodol gan hefyd leihau’r effaith ar y dirwedd. Ateb Galw Cynyddol am Ynni. Rhagwelir y bydd y galw am drydan yng Nghymru’n treblu erbyn 2050. I gefnogi’r twf hwn — ac i gysylltu’r maint cynyddol o ynni adnewyddadwysy’n cael ei gynhyrchu â chartrefi a busnesau — mae’n hanfodol cael rhwydweithiau dosbarthu newydd a gwell. Mae ACCC Caerdydd yn rhan o’r ateb hwnnw. Mae’n caniatáu i fwy o bŵer gael ei drosglwyddo’n effeithlon, yn ddiogel ac yn ddibynadwy gan ddefnyddio llinell uwchben sydd wedi ei llunio i fod yn fwy compact.

Confensiynau Enwi Cydnabyddedig. Mae ACCC Caerdydd yn dilyn y confensiynau enwi rhyngwladol sy’n cael eu defnyddio ar gyfer mathau eraill o ddargludyddion, gan gynnwys “Hamburg” ac “Oslo”. Am mai dyma’r datblygwr cyntaf i brofi a gweithredu’r math yma’n llwyddiannus, cymerodd Green GEN Cymru’r cyfle i enwi hwn yn swyddogol yn fath Caerdydd. Safbwynt yr Arweinwyr Dywedodd Steve Rowlands, Pennaeth Adeiladu yn Green GEN Cymru: “Rydym yn falch o fod wedi rhoi Caerdydd ar y map fel peiriant arloesedd yn y sector ynni. Mae gan Gymru’r uchelgais i gynhyrchu twf, sgiliau a swyddi trwy’r diwydiant hwn. Rydym wedi ein hysbrydoli i gefnogi dyfodol ynni ein cenedl — ac mae’r brifddinas yn ymgorffori’r ysbryd hwnnw. Rydym yn ymrwymedig i ddefnyddio technolegau sydd wedi’u cynllunio ar gyfer ein tirwedd a’n cymunedau. Mae ACCC Caerdydd yn caniatáu inni gario capasiti llawer mwy ar beilonau llai, sy’n llai amlwg o ran eu golwg yn y dirwedd. Rwyf wrth fy modd bod ein cais wedi llwyddo ac edrychaf ymlaen at weld ACCC Caerdydd yn cael ei ddefnyddio ar brosiectau ledled y byd.”

Ychwanegodd Stuart George, Prif Weithredwr Green GEN Cymru: “Rydym wrth ein boddau cael cydnabod Caerdydd yn ganolfan o arbenigedd ac arloesedd. Un enghraifft yn unig yw ACCC Caerdydd o’r ffordd yr ydym yn arloesi mewn technoleg rhwydweithiau. Rydym yn chwilio’n barhaol am gyfleoedd i wella ac i ddod ag atebion arloesol i’r diwydiant. Mae’n hanfodol ein bod yn buddsoddi mewn seilwaith hanfodol a thechnolegau lefel uwch er mwyn cyflawni ein huchelgais — harneisio arloesedd, sbarduno twf economaidd, creu swyddi o ansawdd uchel a chryfhau diogelwch ynni Cymru.” Cefnogi Seilwaith Ynni Glân Wrth groesawu rôl ehangach arloesedd yn y gwaith o uwchraddio’r grid trydan, dywedodd Gweinidog Gwladol dros Ynni Llywodraeth y DU, Michael Shanks: “Rydym yn uwchraddio system grid trydan a gynlluniwyd yn bennaf yn y 1960au, fel bod modd cludo ynni glân am gost is i bweru cartrefi a busnesau. Gall arloesi sy’n cynyddu gallu’r grid ein helpu ni i fanteisio’n llawn ar yr egni glân sy’n cael ei gynhyrchu yng Nghymru a ledled Prydain, a’n symud ni oddi wrth ansicrwydd y marchnadoedd tanwydd ffosil.