Arddangos y cyfle i fuddsoddi yng Nghymru

Yn Green GEN Cymru, rydyn ni’n cyflymu buddsoddiad mewn seilwaith ynni adnewyddadwy yng Nghymru, gyda bron i £1 biliwn erbyn 2030, gan symud ein cynlluniau ymlaen i gyrraedd y targedau Sero Net brys a osodwyd gan Lywodraethau’r DU a Chymru.

Yn barod yn trafod gyda chontractwyr Cymreig, rydyn ni’n ymrwymedig i gefnogi’r gadwyn gyflenwi leol ac eisiau gweld cymaint o’r buddsoddiad â phosib yn cael ei gadw o fewn Cymru. Roedd Utility Week Live yn y NEC, Birmingham – un o brif arddangosfeydd cyfleustodau Ewrop – yn gyfle gwych i archwilio partneriaethau i adeiladu dyfodol gwyrddach a mwy gwydn gyda’n gilydd.

Drwy ddefnyddio technoleg arloesol sy’n caniatáu cludo mwy ar bolion llai, rydyn ni’n arwain gyda’r rhwydwaith dosbarthu llinol mwyaf yn y DU y tu allan i fframweithiau traddodiadol – yn hanfodol ar gyfer cysylltu 3.3GW o gapasiti cynhyrchu a galw newydd yma yng Nghymru.

Mae ein prosiectau’n cynnwys polion L7, gorsafoedd, polion pren a cheblau tanddaearol, ac fe fyddan nhw’n creu bron i 1,000 o swyddi adeiladu yn unig.