GREEN GEN CYMRU’N CROESAWU ADRODDIAD GRŴP CYNGHORI ANNIBYNNOL AC YN CYMELL Y DYLID RHOI’R FFOCWS AR DDATRYSIADAU GRID Y GELLIR EU DARPARU

Mae Green GEN Cymru’n croesawu cyhoeddi adroddiad yr Adolygiad Grŵp Cynghori Annibynnol (IAG) ar Grid Trydan y Dyfodol i Gymru, sef cyfraniad agored sy’n adlewyrchu cymhlethdod datblygu’r grid yng Nghymru.

Mae’r adroddiad yn cydnabod, er gwaethaf ymgysylltu eang a chasglu tystiolaeth, nad oedd hi’n bosibl cael cytundeb unedig ymhlith aelodau annibynnol — gan dynnu sylw at gryfder y safbwyntiau a’r heriau sy’n parhau o amgylch dewisiadau seilwaith y grid. Mae’r gydnabyddiaeth hon yn bwysig ac yn adlewyrchu realiti darparu seilwaith ynni ar lawr gwlad. Yn ei sylw am yr adroddiad, dywedodd Daryn Lucas, Rheolwr-gyfarwyddwr Green GEN Cymru: “Mae’r adroddiad hwn yn adlewyrchu gwir gymhlethdod y mater.

Nid oes un ateb sy’n gweithio ym mhobman, ac rydym yn cytuno bod yn rhaid sicrhau cydbwysedd rhwng ffactorau megis cost, cynaliadwyedd, effaith amgylcheddol, a chyd-destun lleol.” Ychwanegodd: “Dyna pam yr ydym wrthi’n barhaus yn asesu’r technolegau mwyaf priodol ar draws ein llwybrau. Mewn gwirionedd, mae hyn yn golygu defnyddio cymysgedd o ddulliau — gan gynnwys adrannau o waith tanddaearol, polion pren, a pheilonau — yn dibynnu beth sy’n gywir i bob lleoliad.” Trwy’r gwaith cyfan gyda’r Grŵp Cynghori Annibynnol – a ddechreuodd yn gyntaf yn ôl ym mis Rhagfyr 2024 – mae Green GEN Cymru a chynrychiolwyr eraill o’r diwydiant wedi pwysleisio bod amrywiaeth barn yn tanlinellu pwysigrwydd fframweithiau polisi y gellir eu haddasu sy’n cydbwyso anghenion ynni cenedlaethol, ystyriaethau amgylcheddol a chyfranogiad cymunedol. Mae Green GEN Cymru hefyd wedi cyflwyno tystiolaeth i’r grŵp cynghori, gan gynnwys Adroddiad Asesu Gwaith Tanddaearol 132kV DNV, ac adroddiad Turner a Townsend ar linellau uwchben, sef yr ‘adroddiad rhagweld costau’ ar gyfer y prosiect Tywi Wysg a gynigir gan GGC. Mae copïau o’r adroddiadau ar gael yn gyhoeddus yn Adroddiadau – Green GEN Cymru Mae Green GEN Cymru hefyd yn croesawu cydnabyddiaeth yr adroddiad bod datrysiadau grid mwy costus yn debygol o arwain at gostau uwch i ddefnyddwyr — mater y mae’n dweud y dylid ei gadw’n ganolog ganolog i benderfyniadau polisi a rheoleiddio. “Mae’n arbennig o bwysig bod y dylanwad ar filiau cwsmeriaid yn cael ei gydnabod yn glir,” meddai Lucas. “Mae hon yn ystyriaeth hanfodol i Ofgem, ac yn un y mae’r cyhoedd yn haeddu gwybod amdani wrth i drafodaethau ynghylch seilwaith y grid barhau.” Mae Green GEN Cymru’n edrych ymlaen at barhau i weithio’n adeiladol â Llywodraeth Cymru, cymunedau, a’r diwydiant i sicrhau bod grid trydan Cymru’n cael ei ddarparu mewn ffordd sy’n hyblyg, cytbwys ac yn addas ar gyfer y dyfodol. Ffynhonnell y Grŵp Cynghori Annibynnol https://www.llyw.cymru/grwp-cynghori-annibynnol-ar-grid-trydan-y-dyfodol-i-gymru-adroddiad-ac-argymhellion