Home > Deall y termau perthnasol

Deall y termau perthnasol

Gweithredwr Rhwydwaith Dosbarthu (DNO) yw’r cwmni rhanbarthol sy’n gyfrifol am redeg y rhwydwaith trydan yn eich ardal.

 Mae Gweithredwr Rhwydwaith Dosbarthu Annibynnol (IDNO) yn gwmni preifat sy’n berchen ar rwydweithiau trydan ac yn eu gweithredu.

Mae Darparydd Cysylltiad Annibynnol (ICP) yn gwmni sydd wedi ei achredu o dan yn y Cynllun Cofrestriad Trydan Cenedlaethol (NERS), i ddylunio ac adeiladu rhwydweithiau trydan newydd – o geblau i is-orsafoedd a chysylltiadau. Mae’n rhaid i’w gwaith gyrraedd safonau tynn y diwydiant fel bod modd i’r rhwydwaith, unwaith y bydd yn gyflawn, gael ei fabwysiadu a’i gynnal gan naill ai’r DNO neu’r IDNO.

Beth yw’r gwahaniaeth rhwng DNO ac IDNO?

Efallai eich bod wedi clywed am DNOs (y Gweithredwyr Rhwydwaith Dosbarthu)? Nhw yw’r cwmnïau rhanbarthol sy’n gyfrifol am y seilwaith trydan presennol ar draws y DU.

Y prif wahaniaeth rhwng y ddau? Mae IDNOs yn gweithredu rhwydweithiau newydd sydd fel arfer yn canghennu o’r rhwydwaith DNO i wasanaethu datblygiadau neu brosiectau ynni penodol. Mae DNO yn rheoli’r grid sydd eisoes yn bodoli yn eich ardal, ac mae IDNO, fel Green GEN Cymru, yn canolbwyntio ar ehangu mynediad at ynni glân drwy gynnig seilwaith newydd pwrpasol.

Yn ymarferol, mae’r DNOs a’r IDNOs yn cael eu rheoleiddio gan Ofgem ac yn cynnig yr un safonau o ran diogelwch, dibynadwyedd a gwasanaeth. Fodd bynnag, gall IDNOs gynnig telerau mwy cystadleuol yn aml iawn, a chefnogaeth fwy hyblyg ar gyfer cysylltiadau newydd.

Rôl GreenGen Cymru
fel IDNO

Mae Gweithredwr Rhwydwaith Dosbarthu Annibynnol (IDNO), fel Green GEN Cymru, yn chwarae rhan allweddol mewn ehangu seilwaith trydan y DU – yn enwedig lle mae angen cysylltiadau newydd. Yn lle dibynnu’n llwyr ar y grid sy’n bodoli’n barod, rydym yn creu rhwydweithiau lleol newydd i wasanaethu datblygiadau tai, safleoedd ynni adnewyddadwy, a galwadau cynyddol eraill.

Rydym yn ysgwyddo’r gwaith adeiladu cychwynnol a’r gwaith parhaus o gynnal a chadw’r rhwydwaith, gan fuddsoddi ymlaen llaw fel nad oes raid i chi wneud. Yn gyfnewid, bydd cynhyrchwyr a datblygwyr yn talu ffi flynyddol i ddefnyddio’r rhwydwaith.

P’un a ydych chi’n cynllunio fferm solar, prosiect gwynt neu ddatblygiad tai newydd yng Nghymru, gall Green GEN Cymru gynnig ffordd i chi gysylltu – ac aros wedi’ch cysylltu – sy’n syml ac yn canolbwyntio ar y dyfodol.

Cysylltiadau Doethach ar
gyfer Cymru Wyrddach

Mae dewis IDNO ar gyfer eich cysylltiad trydan yn cynnig manteision gwirioneddol, yn enwedig os ydych yn rhan o dirwedd ynni adnewyddadwy Cymru sy’n datblygu’n gyflym.

Dyma pam:

  • Dim cost ymlaen llaw – Rydyn ni’n ariannu’r gwaith adeiladu a’r gwaith o gynnal a chadw’r rhwydwaith newydd.
  • Cyflymder a hyblygrwydd – Am ein bod yn weithredwr sydd â ffocws ac sy’n edrych i’r dyfodol, gallwn ymateb yn gynt yn aml iawn a chynnig proses gysylltu fwy hyblyg
  • Ymroddiad i ddyfodol glanach – Mae Green GEN  Cymru’n ymroddedig i Gymru sy’n wlad garbon isel. Mae gweithio gyda ni’n golygu alinio â phartner sy’n rhannu’ch gwerthoedd a’ch gweledigaeth
  • Safonau rheoledig – Byddwch yn derbyn yr un safonau uchel â DNO traddodiadol, ond gyda ffocws sy’n fwy gwyrdd ac sy’n edrych fwy i’r dyfodol.

GGC IDNO map - Smarter Connections for a Greener Wales