Home > Amdanom Ni
Ein Diben

Ynni positif ar gyfer dyfodol positif

Mae potensial ynni adnewyddadwy yng Nghymru yn ddiddiwedd – yn enwedig o’r gwynt sy’n chwythu ar draws ein bryniau a’n mynyddoedd. Ond mae’r ynni gwyrdd yn sownd yn yr ardaloedd gwyntog o Gymru, ac mae angen i ni ei drosglwyddo i’r cartrefi, ysbytai, ysgolion, busnesau a chymunedau sydd ei angen.

I ymateb i’r her hon ac i fodloni targedau Llywodraeth Cymru am 100% o drydan adnewyddadwy yng Nghymru erbyn 2035, rydyn ni’n datblygu rhwydwaith trydan adnewyddadwy cryfach a mwy gwydn – ac mae angen hynny ar Gymru – drwy ddosbarthu ynni glân, gwyrdd.

Rydyn ni eisiau adeiladu dyfodol positif, glân i ni gyd.

Ein Nodau

Rydyn ni’n cynllunio llwybrau ynni gwyrdd ledled Cymru.

 

Mae Green GEN Cymru wedi derbyn trwydded Gweithredwr Rhwydwaith Dosbarthu Annibynnol (IDNO) gan Ofgem a bydd yn talu am adeiladu a chynnal a chadw’r rhwydwaith dosbarthu trydan newydd.

Fel busnes ynni adnewyddadwy o Gymru, rydyn ni’n credu ein bod mewn lle unigryw i weithio gyda chymunedau, tirfeddianwyr, rhanddeiliaid a chyflenwyr o Gymru i greu buddion economaidd a chymunedol i Gymru.

Byddai ein rhwydwaith arfaethedig yn caniatáu cysylltiad uniongyrchol rhwng prosiectau cymunedol ac adnewyddadwy eraill, gan leihau’r pwysau ar y grid trydan presennol, cefnogi gwytnwch ynni a galluogi y symudiad i gwresogi gwyrdd a cerbydau trydan.

 

Ploughed field with two wind turbines

Gyda’r byd yn anelu am allyriadau carbon sero net erbyn 2050, mae cryn dipyn o drafod wedi bod am dyrbinau gwynt, batris a cheir trydan, ond ni fydd yr un ohonyn nhw’n gweithio heb system addas o geblau a newidyddion sy’n cludo cerrynt i’n cartrefi a’n busnesau.

Ed Conway, Golygydd Economaidd, Sky News a cholofnydd cyson gyda The Times

Cwestiynau a ofynnir yn aml.

Rydym am ymateb i anghenion a disgwyliadau’r cymunedau lleol sydd agosaf at ein prosiectau er mwyn sicrhau cyrraedd Cymru iachach a fwy cynaliadwy.

Mae potensial diddiwedd ar gyfer ynni adnewyddadwy yng Nghymru – yn enwedig o’r gwynt sy’n chwythu ar draws ein bryniau a’n mynyddoedd. Ond mae’r ynni gwyrdd yn sownd yn ardaloedd gwyntog Cymru, ac mae angen i ni fynd ag ef i’r cartrefi, ysbytai, ysgolion, busnesau a’r cymunedau sydd ei angen. Er mwyn ymateb i’r her hon a chyrraedd targed Llywodraeth Cymru ar gyfer 100% o drydan adnewyddadwy yng Nghymru erbyn 2035, rydym yn datblygu rhwydwaith trydan adnewyddadwy cryfach, mwy gwydn sydd ei angen yn fawr yng Nghymru – gan ddosbarthu ynni glân, gwyrdd.

Byddai ein rhwydwaith arfaethedig yn caniatáu cysylltiad uniongyrchol rhwng prosiectau cymunedol ac adnewyddadwy eraill, gan leihau’r pwysau ar y grid trydan presennol, cefnogi gwytnwch ynni, galluogi gwresogi gwyrdd a cerbydau trydan ledled Cymru.

Ni fydd arian cyhoeddus yn cael ei ddefnyddio. Fel Gweithredwyr Rhwydwaith Dosbarthu Annibynnol (IDNO), bydd Green GEN Cymru yn talu am ddylunio, adeiladu a chynnal y rhwydwaith dosbarthu trydan 132kV (132,000- folt) newydd – sydd ei angen i gysylltu prosiectau ynni adnewyddadwy newydd yng Nghymru â’r rhwydwaith trawsyrru trydan, gan helpu i sicrhau ynni gwyrdd i gartrefi a busnesau ledled Cymru a thu hwnt.

Bydd Green GEN Cymru yn galluogi cynhyrchydd carbon isel i gael ei gysylltu â’r rhwydwaith trydan a thrwy hynny i’r cartrefi a’r busnesau lle rydym yn ei ddefnyddio. Unwaith y bydd yn weithredol, ynni gwynt yw un o’r mathau rhataf o gynhyrchu trydan, bydd yr ynni adnewyddadwy a wneir yng Nghymru yn lleihau ein dibyniaeth ar danwydd ffosil tramor ac yn cyfrannu at annibyniaeth ynni.

Rydym yn creu system ynni 100% wyrdd a chynaliadwy i bawb sy’n byw yng Nghymru.

Fel busnes ynni adnewyddadwy o Gymru, rydyn ni’n credu ein bod mewn lle unigryw i weithio gyda chymunedau, tirfeddianwyr, rhanddeiliaid a chyflenwyr o Gymru i greu buddion economaidd a chymunedol i Gymru.  Gall ein rhwydwaith grid gwyrdd ddarparu ateb  rhanbarthol ar gyfer rhwydwaith De a Chanolbarth Cymru trwy agor y potensial ar gyfer buddsoddiad busnes yn yr ardal, gan gefnogi creu swyddi a sgiliau, a galluogi’r newid o danwydd ffosil i ynni adnewyddadwy ar gyfer gwresogi cartrefi a cherbydau trydan.

Drwy gysylltu prosiectau fferm wynt o Bute Energy, mae’r cymunedau agosaf at ein llinellau grid hefyd yn gymwys i wneud cais i Gronfa Budd Cymunedol unigryw Bute Energy.  Gwerth miliynau o bunnoedd y flwyddyn, bydd yr arian hwn ar gael i ddarparu cymorth ariannol ar gyfer mentrau sy’n gwella ansawdd bywyd aelodau’r gymuned, yn helpu i sicrhau annibyniaeth ynni glân, meithrin ymgysylltiad, a mynd i’r afael â phryderon cymdeithasol ac economaidd – dull unigryw ym Mhrydain. Gweinyddir gan Bute Energy, cysylltwch â’u Tîm Buddsoddi Cymunedol yn uniongyrchol am fwy o wybodaeth. Cysylltu â ni – Bute

Wedi ei lleoli ar Stryd St Mary yng Nghaerdydd, rydym yn falch o fod yn gwmni Cymreig, ac rydym wedi ymrwymo i fuddsoddi yng Nghymru a chefnogi economi Cymru drwy ddarparu cyfleoedd yn uniongyrchol i gadwyn gyflenwi Cymru lle bynnag y bo modd.

Ar hyn o bryd mae pob un o’n prosiectau yn mynd trwy wahanol gamau o’r broses gynllunio. I gael y wybodaeth ddiweddaraf am brosiect penodol, dilynwch y ddolen briodol yn y tab Prosiectau ar frig y dudalen hon.

Oes gennych chi gwestiwn?

Mae croeso i chi gysylltu os oes gennych unrhyw gwestiynau.

 

f: 0800 3777 339
e:info@greengencymru.com

 

Cysylltwch â ni

Lady wearing outdoor clothing

Ymunwch â’r tîm

Os ydych chi’n angerddol am ein helpu ni i bweru dyfodol ynni cadarnhaol i Gymru, edrychwch ar ein tudalen gyrfaoedd.

swyddi presenno