Y Buddion
Bydd mabwysiadu ffynonellau ynni adnewyddadwy yn cael effeithiau positif ar gymunedau lleol ar draws Cymru. Bydd ein rhwydwaith ynni adnewyddadwy newydd yn creu swyddi ac yn ysgogi twf economaidd, yn lleihau llygredd ac yn gwella iechyd y cyhoedd.
Gall defnyddio ynni gwyrdd i roi pŵer i’ch cartref neu fusnes helpu i leihau eich costau ynni – mae’n rhatach na nwy a niwclear. Ac mae symud i ynni adnewyddadwy yn allweddol i iechyd ein planed – nid yw ffynonellau ynni adnewyddadwy yn cynhyrchu fawr ddim allyriadau, os o gwbl. Gallwn greu dyfodol mwy cynaliadwy i ni ein hunain ac i genedlaethau’r dyfodol.