Green GEN Cymru’n Croesawu Cynllun Twf Sector y Rhwydweithiau Trydan

Mae cadwyn gyflenwi trydan a diwydiant rhwydweithiau’r DU wedi cyhoeddi’r Cynllun Twf Sector Rhwydweithiau Trydan (ENSGP) interim, sy’n nodi sut y gall ehangu ac uwchraddio rhwydweithiau trydan Prydain gefnogi swyddi, sgiliau a thwf economaidd hirdymor.

Dyfeisiwyd y cynllun ar y cyd gan y Gymdeithas Rhwydweithiau Ynni (ENA) a BEAMA, gyda mewnbwn gan weithredwyr rhwydweithiau, sefydliadau cadwynni cyflenwi a rhanddeiliaid yn y diwydiant. Mae’r cynllun yn amlinellu’r seilwaith, y gweithlu a’r capasiti gweithgynhyrchu sydd eu hangen i gyflwyno system drydan sero net yn y dyfodol.

Mae’r adroddiad interim yn tynnu sylw at y ffaith y bydd y rhaglen yn:

  • Cefnogi creu degau o filoedd o swyddi medrus ar draws y gweithredwyr rhwydweithiau, y contractwyr a’r gadwyn gyflenwi ehangach
  • Cydlynu buddsoddiad yn y rhwydwaith gyda thwf mewn tai, trafnidiaeth carbon isel, gweithgynhyrchu gwyrdd a sectorau technoleg y dyfodol
  • Darparu map ffordd clir ar gyfer datblygu’r gweithlu a’r gadwyn gyflenwi i ddiwallu’r galw cynyddol

Fel cefnogwr a chyfrannwr, mae Green GEN Cymru’n croesawu cyhoeddi’r cynllun interim a’i ffocws ar sicrhau bod Cymru a’r DU ehangach yn elwa o system drydan lân a gwydn sy’n barod ar gyfer y dyfodol. Wrth sôn am y cynllun, dywedodd Daryn Lucas, Cyfarwyddwr Rheoli Green GEN Cymru: “Mae’r Cynllun Twf hwn yn cyrraedd ar adeg sy’n allweddol i drawsnewidiad ynni’r DU: mae’n dangos nid yn unig y seilwaith sydd ei angen arnom, ond y bobl a’r sgiliau sydd eu hangen i’w ddarparu ynghyd â’r gadwyn gyflenwi angenrheidiol i fod yn asgwrn cefn iddo. Mae’r addewid o ddegau o filoedd o swyddi newydd a rhwydwaith gweithgynhyrchu a chyflenwi domestig cryfach yn dod â budd i gymunedau ac i’r economi fel ei gilydd.” Mae’r cynllun hefyd yn tanlinellu pwysigrwydd cael cydlyniad rhwng diwydiant, llywodraeth a phartneriaid cadwyn gyflenwi, er mwyn darparu buddion y tu hwnt i isadeiledd — yn cynnwys pŵer diogel, fforddiadwy a di-garbon, ochr yn ochr â buddsoddiad parhaol mewn sgiliau a gweithgynhyrchu. Wrth i’r DU symud yn gyflymach tuag at ynni glân, mae Green GEN Cymru’n parhau i fod yn ymroddedig i weithio gyda diwydiant, llywodraeth a chymunedau i helpu i ddatgloi potensial ynni Cymru a chefnogi rhwydwaith trydan gwydn ar gyfer y dyfodol.