Gweld ein prosiect Tywi Wysg cross
A close-up of a person wearing glasses and a raincoat.

CREU
DYFODOL
POSITIF
I GYMRU
O RAN YNNI

down icon

GYRFAOEDD

Am gyfrannu?

Mae nod Green GEN Cymru yn syml: creu rhwydwaith ynni adnewyddadwy 100% cynaliadwy yng Nghymru, i Gymru – a chyda hynny, grymuso cymunedau drwy fuddsoddiad, swyddi a sgiliau.

Nawr ac yn y dyfodol agos bydd angen pobl brofiadol ac angerddol i’n helpu i gyflawni’r amcanion hyn. Ar hyn o bryd ry’n ni’n datblygu ein cynigion yng Nghymru gyda thîm profiadol, sy’n tyfu. Dros amser byddwn yn chwilio am bobl â phob math o sgiliau i ddatblygu ac adeiladu ein prosiectau – naill ai’n uniongyrchol ar gyfer Green GEN Cymru neu fel contractwyr.

Ry’n ni ar flaen y gad, ac wedi creu gweithle lle mae cyfleoedd i ddysgu, ac mae eich datblygiad yn cael ei annog, rhannu, a’i ddathlu. Chi sy’n penderfynu faint o amser i’w dreulio yn gweithio mewn swyddfa neu gartref, ac mae digon o gyfle i deithio a gweithio gyda chymunedau ledled Cymru. Os y’ch chi’n ddarpar Reolwr Prosiect neu Arbenigwr Cyfathrebu, Arweinydd Cymunedol neu Gynghorydd Cyfreithiol.

Os ydych chi’n angerddol am ein helpu i bweru dyfodol ynni cadarnhaol i Gymru, fyddwn ni wrth ein bodd clywed gennych.