Gweld ein prosiect Tywi Wysg cross

CREU
DYFODOL
POSITIF
I GYMRU
O RAN YNNI

down icon
A rural landscape in mid-Wales with overground power lines.

BETH RYDYN NI’N EI WNEUD

Rydyn ni’n cynllunio llwybrau ynni gwyrdd ledled Cymru.

Rydyn ni’n gweithredu nawr i adeiladu a gweithredu rhwydwaith ynni gwyrdd i Gymru, a fydd yn gwneud yn siŵr y gall 100% o ynni adnewyddadwy lifo i’n cartrefi, ysbytai, ysgolion, busnesau a chymunedau.

Rydyn ni’n chwarae rhan ganolog wrth ddarparu rhwydwaith dosbarthu dibynadwy a chadarn a fydd yn mynd i’r afael â’r argyfwng ynni, yr argyfwng hinsawdd yn ogystal â’r argyfwng costau byw. Bydd yn grymuso cymunedau gwledig drwy fuddsoddiadau, swyddi a sgiliau, gan alluogi cymunedau i fyw bywydau trydan modern.

EIN DIBEN

Ynni positif ar gyfer dyfodol positif.

Mae potensial ynni adnewyddadwy yng Nghymru yn ddiddiwedd – yn enwedig o’r gwynt sy’n chwythu ar draws ein bryniau a’n mynyddoedd. Ond mae’r ynni gwyrdd yn sownd yn yr ardaloedd gwyntog o Gymru, ac mae angen i ni ei drosglwyddo i’r cartrefi, ysbytai, ysgolion, busnesau a chymunedau sydd ei angen.

I ymateb i’r her hon ac i fodloni targedau Llywodraeth Cymru am 100% o drydan adnewyddadwy yng Nghymru erbyn 2035, rydyn ni’n datblygu rhwydwaith trydan adnewyddadwy cryfach a mwy gwydn – ac mae angen hynny ar Gymru – drwy ddosbarthu ynni glân, gwyrdd.

Rydyn ni eisiau adeiladu dyfodol positif, glân i ni gyd.

An illustration of wind turbines in a rural landscape.

Y NEWYDDION DIWEDDARAF

Y TÎM

Cysylltu ein hadnoddau adnewyddadwy ar gyfer dyfodol cynaliadwy.

Bydd ein cynlluniau uchelgeisiol yn golygu cynyddu ynni adnewyddadwy yng Nghymru, gan helpu i fynd i’r afael â’r bygythiad mwyaf sy’n wynebu cenedlaethau’r dyfodol – yr argyfwng hinsawdd. Rydyn ni’n rhan o grŵp Bute Energy a byddwn yn cysylltu’r ynni adnewyddadwy a gynhyrchir gan barciau gwynt a solar Bute Energy â’r grid cenedlaethol.

Bydd ein rhwydwaith grid gwyrdd wedi’i gynllunio i alluogi cysylltiad â pharciau ynni sefydliadau eraill, prosiectau cymunedol a chefnogi gwytnwch ynni. Mae ganddo’r gallu hefyd i gefnogi technolegau fel 5G a allai helpu ffermwyr, ysgolion a busnesau i fod ar flaen y gad o ran technoleg mewn ardal wledig.

A close-up of a person wearing glasses and a raincoat.

EIN NODAU

Mewn perchnogaeth breifat, er lles
y cyhoedd.

Mae Green GEN Cymru wrthi’n gwneud cais am drwydded Gweithredwr Rhwydwaith Dosbarthu Annibynnol (IDNO) wrth Ofgem a bydd yn talu am adeiladu a chynnal a chadw’r rhwydwaith dosbarthu trydan newydd, tra bydd parciau ynni Bute Energy yn talu ffi flynyddol am ddefnyddio’r rhwydwaith dosbarthu.

Fel busnes ynni adnewyddadwy o Gymru, rydyn ni’n credu ein bod mewn lle unigryw i weithio gyda chymunedau, tirfeddianwyr, rhanddeiliaid a chyflenwyr o Gymru i greu buddion economaidd a chymunedol i Gymru. Mae’r gronfa Budd Cymunedol yn fuddsoddiad sylweddol yn lleol ac rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau bod y gronfa yn cael yr effaith fwyaf posib ar y cymunedau o amgylch y rhwydwaith.

cog
“Ynni adnewyddadwy yw un o’r cyfraniadau mawr y gall Cymru ei wneud i anghenion byd-eang yn y dyfodol, ac wrth wneud hynny, i sicrhau ffyniant economaidd mewn rhannau o Gymru.”
tiny cogY Gwir Anrhydeddus Mark Drakeford AS, Prif Weinidog Cymru
“Gyda’r byd yn anelu am allyriadau carbon sero net erbyn 2050, mae cryn dipyn o drafod wedi bod am dyrbinau gwynt, batris a cheir trydan, ond ni fydd yr un ohonyn nhw’n gweithio heb system addas o geblau a newidyddion sy’n cludo cerrynt i’n cartrefi a’n busnesau.”
tiny cogEd Conway, Golygydd Economaidd, Sky News a cholofnydd cyson gyda The Times
“…capasiti annigonol o ran y grid fydd y rhwystr mwyaf ar y llwybr i gyrraedd sero net yng Nghymru.”
tiny cogY Gwir Anrhydeddus Stephen Crabb AS, Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cymreig
“Nid yw seilwaith grid Cymru yn addas at y diben. Mae’n dal datblygiadau ynni adnewyddadwy yn ôl. Mae angen buddsoddiad, atgyfnerthu ac uwchraddio.”
tiny cogPwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith y Senedd
A young farmer stands by a tractor in a field.

Y BUDDION

Ynni sy’n dda ar gyfer eich waled, eich cymuned a’ch planed.

Bydd mabwysiadu ffynonellau ynni adnewyddadwy yn cael effeithiau positif ar gymunedau lleol ar draws Cymru. Bydd ein rhwydwaith ynni adnewyddadwy newydd yn creu swyddi ac yn ysgogi twf economaidd, yn lleihau llygredd ac yn gwella iechyd y cyhoedd. Bydd cymunedau lleol hefyd yn elwa o fwy o annibyniaeth a gwytnwch o ran ynni, gan y byddan nhw’n llai agored i darfu ar gyflenwadau ynni.

Gall defnyddio ynni gwyrdd i roi pŵer i’ch cartref neu fusnes helpu i leihau eich costau ynni – mae’n rhatach na nwy a niwclear. Ac mae symud i ynni adnewyddadwy yn allweddol i iechyd ein planed – nid yw ffynonellau ynni adnewyddadwy yn cynhyrchu fawr ddim allyriadau, os o gwbl. Gallwn greu dyfodol mwy cynaliadwy i ni ein hunain ac i genedlaethau’r dyfodol.

EIN PROSIECTAU

Mae eich dyfodol doethach, adnewyddadwy, yn dechrau heddiw.

Eleni, lansiwyd Green GEN Tywi Wysg – llinell ddosbarthu trydan 132kV newydd uwchben sy’n cysylltu Parc Ynni arfaethedig Nant Mithil. Bydd y parc ynni yn cynhyrchu tua 237MW o ynni glân, gwyrdd yn Fforest Maesyfed, gyda’r llinell newydd uwchben yn cysylltu â’r grid cenedlaethol ar bwynt ger Caerfyrddin.

A’r mis hwn, Medi 2023, rydym yn lansio ein hail brosiect Green GEN Efyrnwy Frankton – prosiectau llinellau uwchben 132kV newydd arfaethedig sy’n fwy na 2km o hyd ac sy’n rhannol yn Lloegr ac yn rhannol yng Nghymru. Mae’r prosiectau yn cael eu dosbarthu fel Prosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol (NSIP).

Gallwch ddarllen mwy am ein prosiectau yma.

EIN PROSIECT

Ond pam uwchlaw’r ddaear?

Rydyn ni’n cynllunio llwybrau llinellau uwchben yn ofalus, i leihau’r effeithiau ar drigolion lleol, yr amgylchedd naturiol a chynefinoedd. Serch hynny, bydd yr holl opsiynau technoleg addas ar gyfer Parc Ynni Nant Mithil arfaethedig â’r Grid Cenedlaethol yn cael eu hystyried, gan gynnwys defnyddio peilonau dellt, polion pren, a cheblau tanddaearol.  

Ar hyn o bryd rydym yn cynnig llinellau uwchben gan eu bod yn amharu llai yn ystod y cyfnod adeiladu, ac yn cael llawer llai o effaith ar ecoleg a bioamrywiaeth. Ac maen nhw’n haws i’w hadeiladu, eu cynnal a’u hatgyweirio – gan darfu cyn lleied â phosibl ar gymunedau lleol yn ystod y cyfnod adeiladu a gweithredu. Maen nhw’n fwy darbodus hefyd – mae gosod ceblau tanddaearol o’r math hwn fel arfer rhwng 7 a 10 gwaith yn ddrytach. 

Mae cysylltu cymunedau ag ynni gwyrdd yn y ffordd yma yn lleihau’r pwysau ar y grid trydan cyfredol, gan gefnogi gwytnwch ynni, galluogi gwresogi gwyrdd a chyflwyno cerbydau trydan ar draws Cymru – yn y ffordd gyflymaf a mwyaf darbodus posibl.  

CWESTIYNAU CYFFREDIN

Unrhyw gwestiynau?

Rydyn ni’n cael sgyrsiau rheolaidd gyda phobl mewn cymunedau sydd agosaf at ein prosiect, ac yn gwrando ar bawb ac yn ymateb iddyn nhw.
Pam fod angen y rhwydwaith ynni adnewyddadwy newydd hwn? tiny cog

Ar hyn o bryd, does dim seilwaith yn yr ardal sy’n gallu dosbarthu’r pŵer o Barc Ynni arfaethedig Nant Mithil i’r grid cenedlaethol. Mae angen prosiect Green GEN Tywi Wysg er mwyn mynd ag ynni o ble y caiff ei gynhyrchu, i ble fyddwn yn ei ddefnyddio yn ein cartrefi a’n busnesau.

Bydd hefyd yn caniatáu cysylltiad uniongyrchol â phrosiectau cymunedol a phrosiectau adnewyddadwy eraill, tra’n lleihau’r pwysau ar y grid trydan cyfredol, yn cefnogi gwytnwch ynni, yn galluogi gwresogi gwyrdd ac yn cyflwyno cerbydau trydan ar draws Cymru.

Ein bwriad yw mynd â’r pŵer o’r parc ynni gwynt i is-orsaf arfaethedig newydd ar linell drawsyrru 400kV bresennol y Grid Cenedlaethol ger Caerfyrddin. Bwriedir gwneud y cysylltiad gyda llinell uwchben cylched dwbl 132kV. Bydd y llinell newydd hefyd yn gallu cysylltu parciau ynni gwynt y dyfodol sy’n cael eu cynllunio yn Ne Cymru, gan leihau faint o seilwaith ychwanegol sydd ei angen yn y dyfodol.

Beth sy’n digwydd nesaf a phryd? tiny cog

01 – Ym mis Mawrth 2023, byddwn yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus i wrando ar eich barn ynglŷn â’r llwybr sy’n cael ei ffafrio ar gyfer y llinell uwchben, ac unrhyw beth yr hoffech ei godi am y prosiect. Yno, byddwn yn cyhoeddi manylion llawn ein cynlluniau ac yn cynnal cyfres o arddangosfeydd cyhoeddus lle gall pobl gael gwybod mwy am ein cynlluniau.

02 – Byddwn yn ystyried yn ofalus yr holl adborth a ddaeth i law, ynghyd ag adroddiadau o’n harolygon amgylcheddol a thechnegol, a fydd yn ein helpu i ddatblygu cynllun manwl ar gyfer y rhwydwaith. Byddwn yn cyhoeddi adroddiad sy’n crynhoi’r adborth a dderbyniwyd yn ystod rownd gyntaf yr ymgynghori a sut mae hyn wedi dylanwadu ar ein cynlluniau.

03 – Yna byddwn yn cynnal Asesiad manwl o’r Effaith Amgylcheddol ac yn cynnal ail rownd o’r ymgynghoriad cyhoeddus, fel y gall pobl rannu eu barn am aliniad manwl y llwybr.

04 – Ar ôl ystyried yr holl adborth, byddwn yn cwblhau ein cynlluniau ac yn cyflwyno ceisiadau am ganiatâd ddechrau 2025. Bydd rownd olaf yr ymgynghoriad statudol yn cael ei chynnal cyn gwneud unrhyw benderfyniad ar ein ceisiadau. Bydd y cysylltiad yn ei le i gefnogi’r dyddiad cysylltu a gontractiwyd ar gyfer y parc ynni yn 2028.

A fydd Green GEN Cymru yn gallu lleihau cost fy mil trydan? tiny cog

Bydd Green GEN Cymru yn galluogi i’r broses o gynhyrchu carbon isel gael ei gysylltu â’r rhwydwaith trydan ac â’r cartrefi a’r busnesau lle rydyn ni’n ei ddefnyddio. Unwaith y bydd ar waith, cynhyrchu ynni gwynt yw un o’r mathau rhataf o gynhyrchu trydan a bydd Green GEN Tywi Wysg yn cyfrannu tuag at reoli ein prisiau ynni yn y dyfodol.

Nid oes unrhyw benderfyniadau wedi’u gweud hyd yma o ran sut bydd y Gronfa Budd Cymunedol yn cael ei gweinyddu. Ond rydyn ni eisiau gwneud yn siŵr bod cynifer o bobl leol, grwpiau a darparwyr gwasanaethau yn rhan o’r broses o ddatblygu’r blaenoriaethau ar gyfer buddsoddi yn y gronfa.

Sut fydd y gymuned leol yn elwa o’r rhwydwaith dosbarthu newydd?  tiny cog

Rydyn ni’n creu system ynni cynaliadwy, gwyrdd 100% i bawb sy’n byw yng Nghymru. Byddwn yn cysylltu prosiectau ffermydd gwynt o Bute Energy a fydd yn buddsoddi miliynau o bunnoedd bob blwyddyn yng nghymunedau Cymru sydd agosaf at ein prosiectau drwy Gronfa Budd Cymunedol unigryw. Bydd yr arian hwn ar gael ac yn cael ei fuddsoddi yn y cymunedau sydd agosaf at y prosiectau gwynt a’r rhwydwaith trydan.

Bydd yn chwarae rhan bwysig wrth hyrwyddo llesiant y gymuned leol, drwy gynnig cymorth ariannol ar gyfer mentrau sy’n gwella ansawdd bywyd aelodau’r gymuned, yn helpu i sicrhau annibyniaeth ynni glân, yn meithrin ymgysylltiad ac yn mynd i’r afael â phryderon cymdeithasol ac economaidd – dull sy’n unigryw ym Mhrydain.

Ble hoffech chi i’r arian gael ei fuddsoddi? Lle bynnag, yn ystod ein hymgynghoriad cyhoeddus, hoffem glywed eich barn er mwyn deall yn well beth yw’r ffordd orau o wario’r arian hwn.

A fyddwch chi’n defnyddio busnesau a chyflenwyr o Gymru i ddatblygu ac adeiladu’r rhwydwaith hwn?  tiny cog

Cwmni o Gymru ydyn ni, ac rydyn ni wedi ymrwymo i fuddsoddi yng Nghymru a chefnogi economi Cymru. Mae’n ddyddiau cynnar o ran datblygu’r prosiect, ond byddwn yn cynnig cyfleoedd i’r gadwyn gyflenwi Gymreig lle bynnag bo’n bosib.

Sut fyddwch chi’n diogelu’r bywyd gwyllt ar hyd llwybr y rhwydwaith newydd? tiny cog

Mae’r rhwydwaith wedi’i gynllunio’n ofalus i roi ystyriaeth i adar, bywyd gwyllt a chynefinoedd ar hyd llwybr Green GEN Cymru.

Byddwn yn nodi ac yn gwerthuso effeithiau amgylcheddol sylweddol tebygol y llwybr, yn bositif ac yn negyddol, drwy’r Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol. Bydd yn nodi ac yn lliniaru effeithiau posibl ar fywyd gwyllt ac ecosystemau. Mae’r broses yn sicrhau bod penderfyniadau cynllunio yn cael eu gwneud â gwybodaeth lawn am yr effeithiau amgylcheddol tebygol a hyrwyddo ymgysylltiad â chyrff statudol a grwpiau buddiant lleol.

Byddwn yn monitro’r effeithiau amgylcheddol yn agos drwy gydol y cyfnod a’r gwaith adeiladu.