{"id":1778,"date":"2025-09-12T09:08:25","date_gmt":"2025-09-12T08:08:25","guid":{"rendered":"https:\/\/greengencymru.com\/the-civil-engineering-reality-behind-the-headlines\/"},"modified":"2026-03-06T11:34:56","modified_gmt":"2026-03-06T11:34:56","slug":"the-civil-engineering-reality-behind-the-headlines","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/greengencymru.com\/cy\/the-civil-engineering-reality-behind-the-headlines\/","title":{"rendered":"Ceblau P\u0175er Tanddaearol: Y Realiti Peirianneg Sifil y tu \u00f4l i\u2019r Penawdau"},"content":{"rendered":"<p><strong>Pan fydd y sgwrs gyhoeddus yn troi at isadeiledd p\u0175er, yn arbennig y ddadl gynyddol o amgylch gosod ceblau o dan y ddaear o\u2019i gymharu \u00e2 pheilonau, mae\u2019n gwneud synnwyr bod llawer o\u2019r ffocws yn mynd ar yr estheteg, y gost, a safbwynt y cyhoedd. Ond o safbwynt peirianneg sifil, mae\u2019r stori\u2019n llawer mwy cymhleth ac mae wedi ei seilio ar yr elfennau realistig ymarferol ar lawr gwlad.<\/strong><\/p>\n<p>Yn Jones Bros, nid ni sy\u2019n gwneud y penderfyniadau pan fydd raid i brosiect ddewis rhwng tyrrau dros ben neu geblau o dan y ddaear. Mae\u2019r rheiny\u2019n benderfyniadau cynllunio a pholisi yn y pen draw a wneir gan ddatblygwyr a rheoleiddwyr. Fodd bynnag, fel contractwr sydd \u00e2 phrofiad ar draws amrediad eang o brosiectau isadeiledd, rydym yn chwarae r\u00f4l allweddol mewn cynghori ar ymarferoldeb, cyfyngiadau safleoedd, a helpu i lunio atebion sy\u2019n addas i\u2019r tir a hefyd i\u2019r tirlun rheoleiddiol.<\/p>\n<p>Yr hyn rydym wedi ei ddarganfod yn gyson yw bod gosod ceblau trydan foltedd uchel o dan y tir yn cyflwyno heriau peirianneg llawer mwy nag y mae llawer o bobl yn ei dybio, yn enwedig o\u2019i gymharu \u00e2 gosod peilonau.<\/p>\n<p>I ddechrau, mae pob safle yn dod \u00e2\u2019i gyfres unigryw ei hun o gyfyngiadau. Ar draws y DU ac yn sicr yma yng Nghymru, rydym wedi gweithio mewn ardaloedd sydd \u00e2 phob math o gyfyngiadau \u2013 o amodau tir anodd a graddiannau serth, i safleoedd archeolegol wedi\u2019u diogelu, gwasanaethau byw a chroesfannau dros briffyrdd, rheilffyrdd a chyrff d\u0175r. Ychwanegwch at hynny yr ystyriaethau defnydd tir, megis a yw\u2019n dir \u00e2r neu\u2019n dir pori a\u2019r goblygiadau o ran draenio ac ansawdd y pridd, ac rydych yn dechrau gweld yn gyflym iawn mor gymhleth y gall hyd yn oed y camau cynllunio cynnar fod.<\/p>\n<p>Un mater sy\u2019n cael ei anwybyddu yn aml iawn yw maint enfawr y tir sy\u2019n ofynnol. Mae ceblau tanddaearol yn gofyn am goridor gwasanaeth parhaus a llydan. Mae hynny\u2019n golygu adeiladu ffordd gludo, a hynny fel arfer ar hyd y safle cyfan, er mwyn caniat\u00e1u i offer mawr a deunyddiau gael eu cludo a\u2019u gosod. Mae hon yn ymdrech adeiladu dros dro sylweddol ynddi ei hun, ac nid yw\u2019n un sy\u2019n cyd-dynnu\u2019n hawdd \u00e2 defnydd presennol y tir neu ofynion diogelu\u2019r amgylchedd.<\/p>\n<p>Unwaith y bydd y ffordd gludo yn ei lle, mae\u2019r gwaith cloddio\u2019n cychwyn. Y dull arferol yw cloddio ffos, sydd fel arfer tua 1.5 metr o ddyfnder, cyn gosod deunyddiau gwaelodol, pibellau ar gyfer y ceblau, tywod thermol, ac yna \u00f4l-lenwi\u2019r ffos. Rhaid ailadrodd y broses hon ar draws y safle cyfan. Mewn ardaloedd sensitif neu adeiledig, er enghraifft o dan briffyrdd neu gerllaw asedau Network Rail, mae\u2019n rhaid i ni ddefnyddio drilio cyfeiriadol, sy\u2019n dechneg hynod o arbenigol a llawer mwy drud.<\/p>\n<p>Yn ogystal \u00e2\u2019r gwaith sifil uniongyrchol, mae\u2019n rhaid i ni hefyd ystyried systemau draenio dros dro, diogelu cyfleustodau sydd yno\u2019n barod, rheoli gwaddodion, a pharchu gofynion llym i ddiogelu\u2019r amgylchedd. Mae pob un o\u2019r mesurau hyn wedi eu seilio ar arolygon ac asesiadau risg a wneir cyn i unrhyw raw daro\u2019r ddaear.<\/p>\n<p>Yna, mae\u2019n rhaid ystyried y gwaith cynnal a chadw yn y tymor hir. Unwaith y bydd y ceblau wedi eu claddu o dan y ddaear, bydd unrhyw ddiffyg yn llwybr y ceblau yn y dyfodol yn golygu agor y tir hwnnw unwaith eto, a hynny\u2019n sylweddol yn aml iawn. Mae\u2019n rhaid ystyried heriau mynd i mewn at y broblem a\u2019r amser y byddai\u2019n ei gymryd i ddarganfod a thrwsio problemau wrth edrych ar wytnwch cyffredinol y system.<\/p>\n<p>Er gwaethaf y problemau hyn, ni ddylem ddiystyru gosod ceblau o dan y tir fel opsiwn anaddas bob tro. Mae\u2019n gwneud synnwyr mewn rhai lleoliadau, yn enwedig mewn ardaloedd trefol neu dirweddau sensitif o ran eu golygfeydd. Ond yr hyn y byddwn yn rhybuddio yn ei erbyn yw\u2019r syniad mai dyma\u2019r opsiwn gorau neu symlaf bob tro.<\/p>\n<p>Fel contractwyr, ein r\u00f4l ni yw darparu pa ateb bynnag a ddewisir. Ond rydym hefyd yn credu y dylid gwneud penderfyniadau gydag ymwybyddiaeth lawn o\u2019r cymhlethdodau peirianneg, costau a goblygiadau tymor hir perthnasol. Yn Jones Bros, rydym yn dod \u00e2\u2019r mewnwelediad ymarferol hwnnw at y bwrdd, nid er mwyn ffafrio un opsiwn dros un arall, ond i sicrhau bod yr un cywir yn cael ei ddewis ar gyfer pob prosiect unigryw.<\/p>\n<p>Yn y pen draw, daw\u2019r canlyniadau gorau pan fydd yr elfennau technegol realistig yn cael yr un pwysigrwydd \u00e2 sentiment cyhoeddus a gwleidyddol. Oherwydd, bydd darparu system ynni gynaliadwy, wydn a diogel ar gyfer y dyfodol yn gofyn mwy na dim ond bwriadau da. Bydd yn gofyn am yr isadeiledd cywir, wedi ei adeiladu yn y ffordd gywir.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Ceblau P\u0175er Tanddaearol: Y Realiti Peirianneg Sifil y tu \u00f4l i\u2019r Penawdau<\/p>\n","protected":false},"author":5,"featured_media":1717,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[4],"tags":[],"class_list":["post-1778","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-uncategorized-cy"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v21.3 - https:\/\/yoast.com\/wordpress\/plugins\/seo\/ -->\n<title>Ceblau P\u0175er Tanddaearol: Y Realiti Peirianneg Sifil y tu \u00f4l i\u2019r Penawdau - Green GEN Cymru<\/title>\n<meta name=\"description\" content=\"Undergrounding Power Cables: The Civil Engineering Reality Behind the Headlines %\" \/>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/greengencymru.com\/cy\/the-civil-engineering-reality-behind-the-headlines\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Ceblau P\u0175er Tanddaearol: Y Realiti Peirianneg Sifil y tu \u00f4l i\u2019r Penawdau - Green GEN Cymru\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Undergrounding Power Cables: The Civil Engineering Reality Behind the Headlines %\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/greengencymru.com\/cy\/the-civil-engineering-reality-behind-the-headlines\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Green GEN Cymru\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2025-09-12T08:08:25+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2026-03-06T11:34:56+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/greengencymru.com\/wp-content\/uploads\/Grid-Thumbnail-8-3.png\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"1536\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"1590\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/png\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Ian Darbyshire\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Ian Darbyshire\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/greengencymru.com\/cy\/the-civil-engineering-reality-behind-the-headlines\/\",\"url\":\"https:\/\/greengencymru.com\/cy\/the-civil-engineering-reality-behind-the-headlines\/\",\"name\":\"Ceblau P\u0175er Tanddaearol: Y Realiti Peirianneg Sifil y tu \u00f4l i\u2019r Penawdau - Green GEN Cymru\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/greengencymru.com\/#website\"},\"datePublished\":\"2025-09-12T08:08:25+00:00\",\"dateModified\":\"2026-03-06T11:34:56+00:00\",\"author\":{\"@id\":\"https:\/\/greengencymru.com\/#\/schema\/person\/1a723820b2ca9831d98623e60f1cfde4\"},\"description\":\"Undergrounding Power Cables: The Civil Engineering Reality Behind the Headlines %\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/greengencymru.com\/cy\/the-civil-engineering-reality-behind-the-headlines\/\"]}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/greengencymru.com\/#website\",\"url\":\"https:\/\/greengencymru.com\/\",\"name\":\"Green GEN Cymru\",\"description\":\"POWERING A POSITIVE ENERGY FUTURE FOR WALES\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/greengencymru.com\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":\"required name=search_term_string\"}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\/\/greengencymru.com\/#\/schema\/person\/1a723820b2ca9831d98623e60f1cfde4\",\"name\":\"Ian Darbyshire\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/greengencymru.com\/#\/schema\/person\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/d87419d2791c73170f74b9214bab3f0f0920292846e080068154c722bf15fcf9?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/d87419d2791c73170f74b9214bab3f0f0920292846e080068154c722bf15fcf9?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Ian Darbyshire\"},\"url\":\"https:\/\/greengencymru.com\/cy\/author\/iandarbyshire\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Ceblau P\u0175er Tanddaearol: Y Realiti Peirianneg Sifil y tu \u00f4l i\u2019r Penawdau - Green GEN Cymru","description":"Undergrounding Power Cables: The Civil Engineering Reality Behind the Headlines %","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/greengencymru.com\/cy\/the-civil-engineering-reality-behind-the-headlines\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Ceblau P\u0175er Tanddaearol: Y Realiti Peirianneg Sifil y tu \u00f4l i\u2019r Penawdau - Green GEN Cymru","og_description":"Undergrounding Power Cables: The Civil Engineering Reality Behind the Headlines %","og_url":"https:\/\/greengencymru.com\/cy\/the-civil-engineering-reality-behind-the-headlines\/","og_site_name":"Green GEN Cymru","article_published_time":"2025-09-12T08:08:25+00:00","article_modified_time":"2026-03-06T11:34:56+00:00","og_image":[{"width":1536,"height":1590,"url":"https:\/\/greengencymru.com\/wp-content\/uploads\/Grid-Thumbnail-8-3.png","type":"image\/png"}],"author":"Ian Darbyshire","twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Written by":"Ian Darbyshire"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/greengencymru.com\/cy\/the-civil-engineering-reality-behind-the-headlines\/","url":"https:\/\/greengencymru.com\/cy\/the-civil-engineering-reality-behind-the-headlines\/","name":"Ceblau P\u0175er Tanddaearol: Y Realiti Peirianneg Sifil y tu \u00f4l i\u2019r Penawdau - Green GEN Cymru","isPartOf":{"@id":"https:\/\/greengencymru.com\/#website"},"datePublished":"2025-09-12T08:08:25+00:00","dateModified":"2026-03-06T11:34:56+00:00","author":{"@id":"https:\/\/greengencymru.com\/#\/schema\/person\/1a723820b2ca9831d98623e60f1cfde4"},"description":"Undergrounding Power Cables: The Civil Engineering Reality Behind the Headlines %","inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/greengencymru.com\/cy\/the-civil-engineering-reality-behind-the-headlines\/"]}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/greengencymru.com\/#website","url":"https:\/\/greengencymru.com\/","name":"Green GEN Cymru","description":"POWERING A POSITIVE ENERGY FUTURE FOR WALES","potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/greengencymru.com\/?s={search_term_string}"},"query-input":"required name=search_term_string"}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/greengencymru.com\/#\/schema\/person\/1a723820b2ca9831d98623e60f1cfde4","name":"Ian Darbyshire","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/greengencymru.com\/#\/schema\/person\/image\/","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/d87419d2791c73170f74b9214bab3f0f0920292846e080068154c722bf15fcf9?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/d87419d2791c73170f74b9214bab3f0f0920292846e080068154c722bf15fcf9?s=96&d=mm&r=g","caption":"Ian Darbyshire"},"url":"https:\/\/greengencymru.com\/cy\/author\/iandarbyshire\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/greengencymru.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1778","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/greengencymru.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/greengencymru.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/greengencymru.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/5"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/greengencymru.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1778"}],"version-history":[{"count":5,"href":"https:\/\/greengencymru.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1778\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":2685,"href":"https:\/\/greengencymru.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1778\/revisions\/2685"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/greengencymru.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/1717"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/greengencymru.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1778"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/greengencymru.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1778"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/greengencymru.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1778"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}